Tudalen:O Law i Law.pdf/148

Gwirwyd y dudalen hon

ddigon i yrru holl blant ac athrawon yr ysgol i ffitiau. Dyn tal, tenau fel brwynen, oedd ef, a rhyw drem ffyrnig yn ei lygaid bob amser. Un cudyn hir o wallt a arhosai ar ei ben, a'i ddelfryd aruchelaf, am a wn i, oedd cael hwnnw i ymledu a gorwedd yn ufudd ar draws ei ben i guddio'r moelni oddi tano. Pan gollai ei dymer — a digwyddai hynny byth a beunydd — gofalai daro ei law chwith ar ei ben cyn dangos nerth Goliathaidd y llaw a'r fraich arall. Ond yr hyn a geai wir ddychryn yn ein calonnau oedd y chwythiad neidr a gyhoeddai fod Y Polyn Lein yn agosáu. Oherwydd bod ei ddannedd gosod yn rhai llac yn ei geg, tynnai anadl hir a swnllyd i'w enau yn aml iawn, a gwnâi hynny yn ddieithriad pan ddeuai i mewn i unrhyw ddosbarth. Os digwyddai un ohonom fod yn torri ei enw ar y ddesg neu'n sisial wrth ei gymydog neu'n gwneud rhywbeth arall na ddylai, gyrrai'r chwythiad hwnnw ias rew i lawr i'w gefn, a gwnâi ei orau glas i ymdebygu i angel ar unwaith. Os daliai Francis ef wrth ryw ddrygioni neu ddireidi, tynnai anadl swnllyd fel un newynog yn canfod gwledd o'i flaen, ac estynnai ei freichiau main, hirion, i grafangu'r offrwm a roes y duwiau iddo. Hyrddiai'r truan o'i sedd gan weiddi "You duffer! You idiot!"fel gŵr gwallgof, ac yna, â'i law chwith yn gwarchod y cudyn afradlon ar ei ben, gafaelai yng ngwar y pechadur a'i hanner-gario drwy'r ysgol at y ddesg fawr yn Standard IV lle cadwai ef ei gansen. Yno, bob adeg, arhosai hanner dwsin o blant ofnus o wahanol ddosbarthiadau i'w cosbi gan y gŵr athrylithgar hwn, a chydag anadliad hir gloddestwr yr ymgymerai ef â'r caswaith anorfod. Rhoddai Defi Preis, un o ffyddloniaid desg y Sgŵl, flewyn ar draws ei law bob tro yr âi yno, gan gredu a thaeru y torrai hynny'r gansen yn ddwy, ond fy nhyb i yw na wnaeth ymweliadau mynych Defì a'i flewyn ond cryfhau braich y cosbydd.

Now Stifì — yn un o'r ffitiau — oedd yr unig ddisgybl a heriai holl awdurdod ffyrnig y Sgŵl. "Dos adra', Y Polyn Lein diawl," oedd ei awgrym caredig iddo unwaith, a chadwai Francis draw wedyn bob tro y deuai cynnwrf y ffit i Standard V. Ond y prynhawn hwnnw yr oeddwn i a dau arall yn hwyr i'r ysgol, ni chafodd Now ffit o gwbl. Troi'n actor a wnaeth am y tro — er mwyn y Syrcas a ddeuai i'r