Tudalen:O Law i Law.pdf/150

Gwirwyd y dudalen hon

phoenai lawer, bellach, am y cudyn a guddiai ei foelni. Yr oedd yn ddrwg gennyf trosto yn ei henaint a'i unigedd, y gŵr cyfeiliornus hwn a ddysgasai i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ei gasáu. Aethwn i mewn i'r trên yn benderfynol o fod yn sur ac yn sarrug wrtho, ond deuthum allan gydag ef o'r orsaf yng Nghaernarfon mor fwyn a chyfeillgar bron â phetawn yng nghwmni Ifan Môn. Pwy a ddigwyddodd ddyfod i'n cyfarfod ar y ffordd o'r stesion ond Defi Preis. Safodd yn stond am ennyd a'i lygaid mawrion yn methu credu'r anhygoel; yna llithrodd rhyw ddirmyg mawrreddog i'r llygaid hynny, a phoerodd eu perchennog gydag arddeliad i'r ffordd cyn diflannu, ar ryw esgus, i'r siop agosaf.

Llyfrau F'ewythr Huw yw'r mwyafrif o'r rhai sydd yn ein tŷ ni. Yr oedd ef, yn arbennig yn ei flwyddyn olaf, yn ddarllenwr eiddgar, a châi fenthyg llawer o lyfrau gan Mr. Jones a chan Wmffra Jones, y pwyswr, ac eraill. Mor ofalus yr edrychai ar ôl y llyfrau hynny! Rhoddai bapur llwyd am glawr llyfr benthyg ar unwaith, a gofalai olchi ei ddwylo cyn cyffwrdd ag ef. Unwaith yn unig yr aeth un o'r llyfrau benthyg ar goll, a chofiaf bryder ingol f'ewythr yn ystod y ddau ddiwrnod hynny. Poenai drwy'r dydd, ac ni chysgai'r nos. "Gardd Eifion," barddoniaeth Robert ap Gwilym Ddu, oedd y llyfr, a chawsai f'ewythr ei fenthyg gan Wmffra Jones. Darllenasai rai o'r englynion yn uchel imi, gan glywed blas pob gair, ac aeth ati i gopîo rhai ohonynt yn y nodlyfr bach a .gadwai wrth ei wely. Yna, aeth y llyfr ar goll, a'r tri ohonom, fy mam a'm tad a minnau, yn chwilio a chwilota drwy'r tŷ amdano, gan edrych, wrth gwrs, yn y lleoedd mwyaf annhebyg. Aethai'r llyfr ar goll nos Sul, a'r nos Fawrth ddilynol, pan awn gydag ef i'r Seiat, safodd fy nhad yn sydyn ar y ffordd.

"Be' ydi hwn, dywed?" meddai, gan dynnu llyfr bychan o boced y gôt a wisgai ar y Sul ac i fyned i'r Seiat.

"Y llyfr mae F'ewyrth Huw wedi'i golli," meddwn. "Sut yn y byd yr aeth o i'ch pocad chi, 'nhad?"

"Wel, daria, 'rŵan yr ydw' i'n cofio, fachgan. Digwydd gweld yr emyn 'na, 'Mae'r gwaed a redodd ar y groes,' ynddo fo wnes i, a mi drawis y llyfr yn fy mhocad nos Sul