Tudalen:O Law i Law.pdf/16

Gwirwyd y dudalen hon

"Dim, diolch i chi, Meri Ifans. Mi fydda' i'n mynd i'r gwely cyn bo hir."

Gobeithiwn y gwnâi hynny iddynt gychwyn adref.

"Wel, arnoch chi mae'r bai, John Davies."

"Ia'n Tad," oddi wrth Dafydd Owen.

"Ia, wir . . . Diar, fel mae amsar yn mynd!"

Syllodd Ifan Jones i'r simdde fel petai'n gweld y blynyddoedd yn diflannu yn y mwg. Teimlwn braidd yn ddig wrtho, ond wrth edrych ar ei wyneb mawr, cadarn, gwyddwn nad oedd neb caredicach yn y byd. Yr oedd yn tynnu ymlaen mewn dyddiau erbyn hyn, er y daliai i fynd i'r chwarel bob dydd, hindda neu ddrycin. Oedd, yr oedd yn siŵr o fod dros ei ddeg a thrigain, er mai prin y tybiech hynny wrth edrych ar ei gnwd o wallt brith, cyrliog, neu ar groen ei wyneb a oedd o hyd fel croen afal. Eto, yr oedd wedi torri cryn lawer yn ddiweddar, a'r ysgwyddau cyd-nerth wedi crymu tipyn. Gwelwn y gwythiennau'n las ar gefn ei law, a'r croen fel papur tenau, gloyw, wedi i chwi ei wasgu yn eich dwrn. 'Roedd ei lygaid hefyd yn bŵl a dyfrllyd ac yn gwneud imi feddwl am lygaid brithyll newydd ei ddal. Oedd, yr oedd hyd yn oed Ifan Jones yn mynd yn hen.

Cofiwn fel yr awn, yn hogyn, i gyfarfod fy nhad o'r chwarel, er mwyn cael cario'i dun-bwyd a bwyta brechdan-fêl a fyddai ar ôl yn y tun. Teimlwn yn ddyn i gyd yn ceisio brasgamu rhwng fy nhad ac Ifan Jones, oherwydd yr oedd y ddau yn gweithio yn yr un bonc ac yn cerdded adref hefo'i gilydd bron bob nos. Sôn am rywbeth yn perthyn i'r capel y byddai'r ddau gan amlaf, ond weithiau, fe grwydrai sgwrs Ifan Jones ato'i hun yn was-ffarm ym Môn cyn iddo feddwl am ei chynnig hi yn ardal y chwareli. 'Ifan Môn' y gelwid ef yn y chwarel, ac fel ' Ifan Môn ' y soniai fy nhad amdano wrth fy mam bob amser. Yr oedd yn gawr o ddyn, a theimlwn yn fychan iawn wrth geisio cydgerdded ag ef ar y ffordd o'r chwarel. Ond nid oedd arnaf ei ofn ar yr adegau hynny; chwarelwr oedd, yn ei ddillad geirwon, llychlyd – chwarelwr a ffrind fy nhad. Ac fel chwarelwr y siaradai - "Wel, Robat, rhaid inni gael trowsus melfared i'r hogyn 'ma cyn bo hir. On' rhaid, John