Tudalen:O Law i Law.pdf/18

Gwirwyd y dudalen hon

fawr ym Môn oedd y Mab Afradlon, ac mewn tref debyg iawn i Lerpwl y gwasgarodd ei dda. Pan euthum i Lerpwl am dro, flynyddoedd wedi dyddiau'r Ysgol Sul, y sylweddolais i hynny, ac y mai'n rhaid imi gyfaddef bod y darlun a dynasai Ifan Môn yn un byw iawn. Ymhen blynyddoedd wedyn, hefyd, y deuthum ar draws castell a chei a maes Philipi yn nhref Caernarfon: os cofiaf yn iawn, i fyny wrth Bont Seiont y bedyddiwyd Lydia, ac i'w thŷ hi, rywle i lawr wrth y cei, yr aeth Paul a Thimotheus i aros, nes i'r "ddynas-deud-ffortiwn" honno achosi cynnwrf yn y lle.

Clywn y gwynt yn taro ar gornel y tŷ ac yn ysgwyd yr hen ddôr yn y cefn. Taflodd Dafydd Owen olwg cas i'r cyfeiriad, fel petai'r gwynt yn rhyw gi mawr a adawodd ef y tu allan ac y teimlai'n gyfrifol amdano.

"Duwcs, mae hi'n sgowlio heno," meddai.

"Yr hen blancedi'n cael 'u hysgwyd, Dafydd."

"He! Ia, Ifan Jones."

Ffraethineb yr oedd gan Ifan Môn hawlfraint arno ers blynyddoedd oedd hwnnw am y blancedi, rhyw chwedl go niwlog am nifer o gewri'n hongian blancedi anferth uwchben y cwm o'r Foel i'r Clogwyn. Ac aethai "blancedi Ifan Môn "yn rhyw fath o ddihareb yn yr ardal wrth sôn am y gwynt. Ond, yn anffodus, nid dychymyg Ifan Jones a roes anfarwoldeb lleol i'r syniad, ond Sylw rhyw hen frawd go feddw a ysgubwyd gan y blancedi i mewn i siop Preis y Barbwr un noswaith arw — "Ewch i nôl Ifan Môn, bobol. Mae'r blydi lein wedi torri heno!"

"'Ydi o wedi deud wrthach chi, Ifan Jones?" ebe Meri Ifans.

"Deud be', deudwch?"

"Be' mae o am 'neud hefo'r petha', debyg iawn."

"Do. Ac mae o'n gneud yn gall."

"Dyna on inna'n ddeud. 'Does dim fel gwerthu o law i law. Os gnewch chi ocsiwn, mi gewch chi bob math o hen Iddewon a phetha' felly yn eich gneud chi dan eich trwyn. Ond os gwerthwch chi o law i law, 'rydach chi'n o saff — ond i chi beidio gollwng dim heb weld lliw yr arian."

"Ydach," ebe Dafydd Owen, "ac yn gwbod i b'le mae'r petha'n mynd. Mae hynny'n beth mawr, cofiwch chi."