Tudalen:O Law i Law.pdf/28

Gwirwyd y dudalen hon

athronydd ac yn ceisio darganfod lle mangyl yn arfaeth pethau.

Trois i mewn i'r cwt wrth ddychwelyd i'r tŷ. 'Roedd hi'n rhyfedd gweld y lle heb yr hen fangyl mawr yn erbyn y mur. Fel y mwynhawn i ei droi i'm mam pan oeddwn i'n hogyn! Cyfrif deg wrth droi ag un llaw, a rhoi hwb anarferol i'r degfed tro cyn cydio yn yr handyl â'r llaw arall. A phan ddeuai arwyddion blino arnaf, dyna 'mam yn cymryd at y troi a minnau at ddal y gynfas neu'r lliain. Dychrynais hi ganwaith wrth y gorchwyl hwnnw trwy ddal fy modiau ar wyneb y lliain a chuddio fy mysedd oddi tano. Yna, pan ddeuai fy llaw yn agos i'r rholbren, gwnawn ystumiau fel pe bawn mewn poenau arteithiol, a chau fy nyrnau yn slei o dan y lliain. Peri poen i eraill yw un o bleserau mwyaf plentyn.

Yn y tŷ, penderfynais fynd drwy'r llyfrau yn y cwpwrdd cornel. Ond nid âi'r mangyl o'm meddwl. Cofiais y frawddeg a glywid yn aml pan gâi rhywun ei ladd yn y chwarel-"Druan o'i wraig o! Ond mae ganddi hi fangyl, ond oes?" Neu, os nad oedd ganddi hi un, "Gobeithio y byddan' nhw'n hel iddi hi gael mangyl, y gryduras fach."

Dyna sut y prynwyd y mangyl hwn y mae Jim a Ned wrthi'n stryffaglio wrtho yn y lôn gefn. Chwarelwr oedd fy nhaid, tad fy mam, chwarelwr a thipyn o bregethwr cynorthwyol ar y Sul. Yr oedd mor huawdl yn y pulpud nes i'r sôn am ei allu fynd trwy'r sir, ac er ei fod dros ddeugain oed, cymhellwyd ef o'r diwedd i roi'r gorau i'r chwarel a chymryd ei alw i'r weinidogaeth. Ond yn ei wythnos olaf yn y chwarel, syrthiodd darn o'r graig ar ei gefn a'i ladd. 'Roedd Testament Groeg bychan ym mhoced ei gôt. Mae hwnnw gennyf o hyd, ac ôl bysedd fy nhaid ar bron bob dalen: rhaid imi gofio mynd â'r hen Destament bach hefo mi i'r llety.

Rhyw ddeg oed oedd fy mam y pryd hwnnw, a'i brawd, F'ewythr Dic, yn ddim ond pedwar. Buasai fy nhaid yn ŵr hynod ddarbodus, ond yn y dyddiau hynny, cyn bod Undeb nac isrif, yr oedd cael y ddau pen-llinyn ynghyd yn dipyn o gamp. Cafwyd 'cynhebrwng mawr' wrth gwrs, ac yr oedd Allt Lwyd, lle trigai fy nain, yn ddu gan bobl y diwrnod hwnnw. Eisteddodd fy nain a'i dau blentyn wrth