Tudalen:O Law i Law.pdf/40

Gwirwyd y dudalen hon

yr offeryn, a dechreuodd ganu Yr Hen Ganfed arni. Fel y dôi pobl i ddrysau'r tai, crwydrodd Ned atynt gyda'r cap, yn wên o glust i glust. "Casgliad at y plant bach duon, Ned,"gwaeddodd Jim, ond yr eiliad nesaf, tawodd yr harmoniym yn sydyn a gwadnodd Jim hi am ei fywyd. Yr oedd Ella yn nrws ei thŷ.

Arhosais yn y festri i gynorthwyo ychydig gyda'r Band of Hope. Yn y capel y byddai'r plant yn cyfarfod bob nos Iau, ond heno, gan fod yr harmoniym a mymryn o dân yno, aed â hwy i'r festri. Wedi iddo hongian y Modulator mawr ar y mur, dechreuodd Lewis Roberts ar y wers gerddorol, ac eisteddodd Ifan Jones a Dafydd Owen yn y cefn i geisio cadw trefn ar rai o'r bechgyn mwyaf anesmwyth. Treuliwyd amser hir iawn yn canu'r nodau i fyny ac i lawr y scale, a Lewis Roberts yn methu'n glir â chael ei blesio. Yr oedd rhywun allan o diwn yn ofnadwy, ond ni fedrai yn ei fyw ddarganfod pwy oedd y pechadur. Trio'r genethod ar eu pennau eu hunain, yna'r bechgyn, yna'r seddau fesul un, a phawb yn canu'n berffaith. Ond cyn gynted ag y dechreuai'r plant ganu i gyd hefo'i gilydd, yr oedd rhyw lais wrthi'n hogi llif mewn cwt sinc. Edrychai Ifan Jones o gwmpas fel petai'n barod i larpio perchen y llais anfelys hwnnw, a gwnâi Lewis Roberts ystumiau a awgrymai ei fod newydd lyncu rhyw feddyginiaeth sur ofnadwy. Yr oeddwn i'n amau ers meitin mai Wil, hogyn Jim ac Ella, oedd y troseddwr, er ei fod yn edrych cyn sobred â sant; gwelwn wên ar wynebau'r plant o'i gwmpas a gwyddwn fod llawer o ysbryd ei dad yn Wil. Cyn bo hir, galwodd Lewis Roberts Wil allan at y Modulator i ddangos i'r plant eraill sut yr oedd canu'r nodau. A chanodd Wil yn berffaith gywir, a'i lais, un o'r lleisiau hyfrytaf a fu gan blentyn erioed, yn gwneud i bethau mor ddienaid â "do, re, mi, ffa," swnio'n llawn ystyr. Ond pan aeth yn ôl i'w sedd ac ymuno â'r plant eraill i ganu'r nodau, fe ddaliai rhywun i hogi'r llif yn y cwt sinc. Blinodd Lewis Roberts, a galwodd ar Ifan Jones ymlaen i "ddweud rhwbath." Yn lle rhoi araith, cyhoeddodd Ifan Jones ei fod am gael cystadleuaeth, ac aeth su hapus drwy'r seddau. "'Stadleuaeth deud stori," ebe Ifan Môn, "a chiniog yn wobr i'r gora'." Mentrodd hanner dwsin o blant ymlaen, a buont i gyd yn fyr ac yn flasus. I gyd ond un.