Yno, o dan y cloc, yr wyf yn ei chofio, 'ac os byddai fy nhad yn y tŷ, dyna lle byddai ei het galed wedi ei tharo ar gongl yr offeryn. Ganwaith y clywais fy mam yn dweud y drefn wrth symud yr het oddi yno a'i rhoi i hongian yn y lobi, ond dal i'w tharo ar gongl yr harmoniym a wnâi fy nhad. "I be' arall y mae hi'n dda?" fyddai ei ateb i'm mam bob tro. "'Does neb yn canu'r hen beth."
Ac nid oedd neb yn ei chanu. Sut y daeth hi yma, ni wn, oni feddyliodd fy nhad, pan oeddwn i'n fychan, y buasai harmoniym yn gwneud cerddor ohonof. Cofiaf fel y safwn wrthi, pan oeddwn yn ddigon tal i hynny, a'm bysedd, wedi imi roi fy nhroed ar y droedlath, yn tynnu bron bob anghytgord ohoni.
"Pam nad eisteddi di wrthi hi yn iawn a thrio canu rhwbath?" gofynnodd fy mam un noson.
A thynnais innau gadair at yr harmoniym, gan feddwl, am ennyd, mai yn hynny y methaswn.
"Tria'r Mochyn Du," meddai fy nhad. "Mae honno'n ddigon hawdd."
Ond yr oedd Y Mochyn Du 'n rhy anodd i mi, a buan y blinais ar drio a thrio ei chanu ag un bys.
"Piti na fedrwn i hefyd, yntê, 'nhad?"
"'Fasat ti yn licio'i chanu hi, John bach?"
"Dewcs, baswn, 'nhad."
"Mi ofynna' i i Huw Ffowcs ddŵad yma i ddangos iti sut i roi'r wagan ar yr haearn, wel'di. Mi bicia' i lawr i'r Bonc Fach i'w weld o ar yr awr ginio 'fory."
Ni wyddwn beth oedd "rhoi'r wagen ar yr haearn," ond yr oedd clywed enw Huw Ffowcs yn gwneud i'm calon guro â llawenydd. Huw Ffowcs a ganai'r organ yn y capel y pryd hwnnw, ac edrychwn arno fel rhyw fath o ddewin yn ei sedd fach wrth yr organ bob Sul. Nid oedd Huw Ffowcs fel y dynion eraill yn y capel, oherwydd yr organ oedd ei unig a'i gysegredig swydd. Ni ofynnai'r gweinidog iddo gymryd rhan yn y Cyfarfod Gweddi, na siarad yn y Seiat, na gweithredu ar Bwyllgor y Ddarlith, na mynd yn gynrychiolydd i ryw Gymanfa. Ni ddysgai ddosbarth yn yr Ysgol Sul ac ni roddai lety i weinidog dieithr. Ni chlywid llais Huw Ffowcs yn dweud 'Amen' yn ystod y bregeth; yn wir, yr oedd ganddo berffaith hawl i fynd i