Tudalen:O Law i Law.pdf/50

Gwirwyd y dudalen hon

medda' Jones y Stiward wrtha i ac Ella ddiwrnod y claddu, John Davies. Gwantan iawn oedd o, fel y gwyddoch chi, ac yn cwyno hefo'i frest am flynyddoedd, ond 'doedd 'na ddim glaw nac oerni a'i cadwai i ffwrdd o'i waith . . . 'Gymwch chi damad o gig moch bora 'ma, John Davies?"

"Diolch yn fawr, Meri Ifans."

"Na, mi ofalwn i ac Ella na chài o ddim piltran yn y tŷ fel amball un. 'Wyddoch chi be' oedd Now Cychod yn 'i 'neud bora ddoe?"

"Be', Meri Ifans?"

"Golchi i Leusa, os gwelwch chi'n dda. Barclod bras amdano fo, a thwb mawr allan yn y cefn. Ond dyna fo, hefo'i gychod ar y llyn a'i dipyn 'sgota, mae 'i fywyd o'n un digon ysgafn. Bora ddoe, cofiwch! Dydd lau! 'Tasa' gan Leusa hannar dwsin o blant mi fasach yn dallt y peth . . . Dowch at y bwrdd, John Davies."

"'Rydach chi'n ffeind iawn, Meri Ifans. Ac mae 'ogla' da ar hwn."

"Mi ddeudodd Ella 'i hanas o wrth Jim."

"Hanas pwy?"

"Now Morgan yn 'i farclod bras, debyg iawn. 'Rhaid i titha' olchi i minna', Jim,' medda' hi. 'Ar i beth mawr o,' medda' Jim, 'mi gei ditha' fynd i rybela i'r chwaral 'na, yr hen chwaer. Mi ffindiwn ni drwsus melfared a 'sgidia' hoelion mawr iti.' . . . O, ia, be' ydach chi am 'neud hefo cadair eich ewyth' John Davies?"

"'Wn i ddim, wir. 'Wyddoch chi am rywun sydd 'i heisio hi?"

"Susan, gwraig Sam Roberts, ddaru alw acw neithiwr ar 'i ffordd o dŷ'r doctor. 'Dydi Sam druan ddim gwell, ond mae'r doctor am iddo fo gael mynd allan dipyn tua'r gwanwyn 'ma. A phan soniais i eich bod chi'n gwerthu'r petha', dyma ni'n dwy ar unwaith yn cofìo am gadair eich ewyth'. 'Piti na fasa fo yn 'i gwerthu hi imi,' medda' Susan. A dyma finna'n addo y baswn i'n sôn wrthach chi

"'Ga' i dorri chwanag o fara-'menyn?"

"Dim diolch, Meri Ifans. Deudwch wrth Susan Roberts am yrru'r hogyn i lawr i nôl y gadair pan fyn hi. Croeso iddi ei chael."

"Mae hen betha' fel'na yn ddrud iawn — yr hen dacla'