Tudalen:O Law i Law.pdf/57

Gwirwyd y dudalen hon

a chrys rhesog F'ewythr Huw am hynny a oedd yn weddill o'm dyddiau. Yr hen fôr gwyrdd, aflonydd, meddwn wrthyf fy hun, gan edrych mewn dychryn dros ei donnau. Ond troes fy nychryn yn llawenydd wrth imi ganfod a chlywed cwch-pysgota mawr yn dyfod tuag atom ar ei ffordd yn ôl i'r porthladd hefo llwyth o fecryll. Neidiodd f'ewythr ar ei draed a chwifio ei het yn un llaw a'i gadach poced yn y llall; gwaeddodd hefyd ddigon i godi'r meirw.

Wedi ein rhaffu wrth y cwch-modur, llithrasom yn ôl yn esmwyth ddigon. Dechreuais i sugno fy oraens a gorweddodd F'ewythr Huw yn ôl am fygyn yng nghefn y cwch, gan gymryd arno na ddigwyddasai dim byd anghyffredin y prynhawn hwnnw.

"Paid ti â sôn gair am hyn wrth dy fam, cofia, John bach, ne' 'chei di byth ddŵad hefo mi i'r dre eto."

"Na wna', F'ewyrth Huw."

"'Fuo' ni ddim allan ar y môr, naddo?"

"Naddo, F'ewyrth Huw."

"A ddaru ni ddim colli'r rhwyf, naddo?"

"Naddo, F'ewyrth Huw."

"A ddaru ni ddim colli'r angor, naddo?" "Naddo, F'ewyrth Huw."

"Eistadd wrth y Cei y buo' ni drwy'r pnawn, yntê, John bach?"

" Ia, F'ewyrth Huw."

"Yn gwrando ar storia' yr hen longwr hwnnw, yntê?"

" Ia, F'ewyrth Huw."

Rhoes dau hen forwr go anystyriol fanllef i'n cyfarch wrth inni ddynesu at y Cei, ond ni wnaeth f'ewythr ond codi ei het iddynt, yn wên i gyd. Bu beth amser yn dod i delerau â pherchen y cwch, a deellais wedyn fod hwnnw, ac yntau 'n hanner-meddw ar y pryd, yn ceisio codi crocbris am y rhwyf a gollwyd. Pwy a ddisgwyliai amdanom ar y Cei ond yr hen forwr siaradus a yrrai'r 'Ciaptan' i ben yr hwylbren i daflu'r currants i'r pwdin reis. Edrychai fel gŵr a chwiliasai'n ofer am gynulleidfa drwy'r dydd, ond a ganfyddai o'r diwedd, ag ochenaid o ryddhad, wrandäwr wrth fodd ei galon. Tynnodd ei bibell allan i ddechrau ei llenwi'n bwyllog, gan sgwario yn erbyn mur y Cei a gwenu i'n croesawu.