Tudalen:O Law i Law.pdf/60

Gwirwyd y dudalen hon

thrist, am y gŵr gweithgar a sionc y bu'n rhaid iddo eistedd a diogi am fisoedd meithion. Ond nid ydynt, ac ni chredaf y rhoddai ef ei fendith ar atgofion felly. Oherwydd ni bu neb digrifach, mwy hwyliog, mwy chwerthingar yn y byd erioed. Ni bu neb mwy annibynnol ychwaith. Ni dderbyniai geiniog na ffafr gan neb; rhoi yn hytrach na derbyn a wnâi fore a hwyr, er mai prin iawn oedd ei adnoddau, yn arbennig yn ei flwyddyn olaf. Os awn ar neges iddo i brynu llyfryn neu faco neu rywbeth, a digwydd bod dimai yn fyr, byddai'n rhaid imi fynd yn fy ôl ar unwaith â'r ddimai yn fy llaw.

"Ond fe wna'r tro ar ôl te, F'ewyrth Huw."

"Na wnaiff, John bach. Dos di yno 'rŵan, 'ngwas i. Hwda, dyma iti ddima' am fynd."

Ar y Bont Lwyd, yng nghanol y Stryd Fawr, y caech chwi f'ewythr gan amlaf. Yno yr ymgasglai rhai o hynafgwyr y pentref—Rhisiart Owen, y crydd; Wmffra Jones, y pwyswr; Ben Francis; William Williams, y tunman; Ellis Ifans, Tyddyn Llus. Yr oedd i'r hen gyfeillion hyn enwau eraill ar dafodau'r ardal, ond wrth eu henwau priod y soniai f'ewythr wrthyf amdanynt. Chwi a'u ,caech ar y Bont Lwyd bob prynhawn a hwyr pan fyddai hi'n braf, ond ar ddiwrnod glawog aent i siop Preis Barbwr neu i weithdy Huw Saer. A mawr oedd eu doethineb hwy.

Llywydd ac 'enaid' y cwmni, fel rheol, oedd Rhisiart Owen. Yr oedd yn dipyn o hynafiaethydd—meddai ef, ac nid oedd unman yn yr ardal nac yn y sir na wyddai ef ei hanes o'r dechreuad. Dyn bychan, bychan, oedd 'Y Manawyd ', fel y gelwid ef amlaf, un o'r dynion lleiaf a welsoch chwi erioed, un cyflym iawn ei lafar a'i gam. Cariai ffon bob amser, a honno lawer yn rhy hir iddo; yn wir, byddai'r bagal yn gyd-wastad â'i ysgwydd, ac ymddangosai yntau braidd fel pe wedi dianc allan o lun cwmni o fugeiliaid dwyreiniol. Ei wybodaeth hynafiaethol, y mae'n bur debyg, a wnâi iddo honni i'r ffon berthyn unwaith i Owain Gwynedd, ond chwarae teg iddo, yr oedd "O.G." wedi ei gerfio ar fôn y bagal.

"Ond 'fallai mai Owan Gruffydd fuo'n byw drws nesa' i chi ddaru dorri 'i enw ar y ffon, Rhisiart Owan?" fyddai sylw rhywun ar y bont neu yn siop y barbwr droeon.