Tudalen:O Law i Law.pdf/77

Gwirwyd y dudalen hon

gan ei fod yn gweithio yn yr un bonc â'm tad ac Ifan Jones. Dyn mawr, trwsgl, ydoedd, â rhyw wên blentynnaidd bob amser yn ei lygaid gweigion. Cysgai yn y 'barics' yng ngwaelod y chwarel, ond âi adref i Fôn bob prynhawn Sadwrn tan fore Llun, gan deithio, wrth gwrs, yn y trên-lechi, neu'r 'trên-chwarel', a redai i Borth Dinorwig. Haerai na thalai ef byth am groesi Pont Menai. Y cwbl a wnái, meddai ef, oedd nodio'n gyfeillgar ar borthor y bont a dweud, "Sut mae hi erbyn hyn?" i awgrymu mai newydd groesi i'r ochr yma yr oedd. Bedyddiwyd ef yn 'Wil Erbyn Hyn' y tro cyntaf iddo adrodd y stori yn y chwarel.

Chwarelwr go anfèdrus oedd Wil, a phrin y gallai ennill cyflog byw un wythnos. Ond gofalai fy nhad ac Ifan Môn ac un neu ddau arall daro swp o lechi wrth ei wal yn ddistaw bach i'w gynorthwyo. Pan ddychwelai Wil at ei res fer o lechi a'i chanfod hi wedi prifio, tynnai ei gap a chrafu ei ben â'i fys bach mewn penbleth fawr . . .

"Diawl, 'ron i'n deud o hyd 'mod i'n gweithio'n gletach o beth coblyn nag oedd y tipyn cerrig oedd gin i yn dangos. A fi oedd yn iawn hefyd."

Enillodd Wil enwogrwydd yn y chwarel unwaith neu ddwy trwy yrru'r wagen a'i llwyth o rwbel yn bendramwnwgl tros y domen. Y tro diwethaf iddo wneuthur hynny, safai Symonds, stiward go lym, gerllaw yn ei wylio'n gwthio'r wagen ar hyd yr heyrn ar y gwastad. Tybiai'r stiward y rhedai'r wagen braidd yn gyflym, a gwaeddodd ar y gwthiwr i arafu tipyn arni. "Go lew, wir, thanciw,"oedd ateb Wil, gan chwifio'i law yn gyfeillgar ar Symonds. Cyflymai'r wagen, a chwibanai Wil. Ond yn lle aros yn y pant a oedd yn yr heyrn ar ben y domen, rhuthrodd yr olwynion ymlaen drosto a rhoes y wagen a'i llwyth lam dros y dibyn. Tynnodd Wil ei gap a chrafu ei ben â'i fys bach wrth edrych ar y wagen yn chwyrlïo i lawr y domen ac ar ei phen i'r llyn.

"Wel, wir, Stiward, " meddai wrth Symonds, pan geisiai'r gŵr hwnnw gael ei wynt ato ar ôl dweud y drefn yn ffyrnig,

"Wel wir, 'tasa' 'mam ynddi hi, 'fedrwn i mo'i stopio hi!"

Fel yr aem ymlaen ar hyd y ffordd, cyfarchai rhywun f'ewythr byth a hefyd — "Hylo, 'r hen Huw!", "Pa hwyl, giaffar?" "'Dim fel codi'n fore, Huwcyn!" Ceisiai ambell un fod yn ddigrif, wrth gwrs, a chlywn bethau fel, ... "Ewch