hanner milltir i fyny'r afon, a synnai pawb i'r hen frawd fagu digon o nerth i grwydro mor bell, yn arbennig gan i Ddoctor Andrew dyngu na allai Enoc lusgo'i gric-cymalau gam y tu allan i'r pentref. Buasai ef a'r Doctor yn dadlau ac yn ffraeo am flynyddoedd meithion, ac awgrymai rhai iddo'i lusgo'i hun cyn belled gan amau y byddai Andrew, yn ei ffordd bendant ef, yn haeru nad oedd ganddo nerth i hynny.
"Diolch dy fod ti'n iawn, John bach, " meddai fy mam drachefn â dagrau yn ei llygaid. A gwyddwn mai ei phryder amdanaf a roesai fod i'r geiriau gwyllt funud ynghynt.
Ella a wnaeth damaid o ginio imi heddiw. Aethai ei mam i edrych am ryw gyfnither iddi yr ochr draw i'r llyn, ond rhoes siars i Ella, cyn cychwyn am y bws, i ofalu gwneud cinio a the imi.
"'Ddaru 'mam sôn wrthach chi, John Davies? " meddai hi pan oedd ar ganol gosod y bwrdd.
"Sôn am be', Ella?"
"Am y bwrdd 'ma."
"Naddo, wir. 'Ydach chi isio bwrdd?"
"Ydw', yr hen labwst mawr iddo fo!"
"Y?"
"Mi fydda' i'n meddwl weithia' nad ydi o ddim llawn llathan, John Davies. Bydda', wir."
"Pwy?
"Y Jim acw. 'Fuo 'na neb mwy di-ben erioed."
"O?"
"'Wyddoch chi be' wnaeth y cradur neithiwr?"
"Be', Ella?"
"Mynd ati i drwsio rhyw hen watch, os gwelwch chi'n dda, yn lle mynd i'w wely i godi yn y bora. A mi- fuo'n rhaid i Wil, wrth gwrs, gael aros ar 'i draed hefo fo—i helpu'i dad, medda' fo. Mi es i i'r gegin fach i lanhau'r sgidia', ac yn sydyn, dyma fi'n clŵad clec dros bob man. A dyma fi'n rhedag ar unwaith i'r gegin. 'Be' oedd y glec 'na, Jim? ' medda' fì. 'Clec? Pa glec?' medda' fynta', yn edrach mor ddiniwad â babi. Ond mi wyddwn i fod rhwbath wedi digwydd, oherwydd 'roedd Wil yn cymryd arno gau carrai 'i esgid. Mi es i'n ôl i'r gegin fach,