Tudalen:O Law i Law.pdf/90

Gwirwyd y dudalen hon

wefusau â'i dafod i awgrymu bod arno yntau syched. Gofalai Joe roddi i Sam y fraint o lawcio rhyw chwarter modfedd o ddiod ar waelod pob gwydryn a yfai ef, ond yn rhyfedd iawn, troi ei drwyn a wnâi Sam oddi wrth wydryn unrhyw un ond Joe. A phan anghofiai'r meistr neilltuo'r chwarter modfedd ar waelod gwydryn, deuai ebychiad dirmygus o gyfeiriad y ci, a throai ei lygaid mawr yn edliwiol tuag at y gwydryn gwag. Ond pur anaml y digwyddai hynny, gan mai disychedu Sam oedd prif ddiben ymweliad Joe â'r Red Lion, meddai ef: gresyn o beth oedd ei orfodi ef, ddirwestwr selog, i yfed gwydraid aml a rheolaidd er mwyn cyrraedd y gwaddod a fwriadodd Rhagluniaeth i Sam.

Ar un o'i ymweliadau anfynych â'i frawd yn y De y daeth Joe o hyd i Sam—neu y daeth Sam, yn hytrach, o hyd i Joe. Digwyddodd Joe, a gawsai beint neu ddau er mwyn ei iechyd, anwylo'r ci a'i ddenu gydag ef i'r dafarn nesaf; yno prynodd swper o fara a chaws iddo, ac yr oedd hi'n amlwg fod y truan bron â llwgu. Talodd Joe am gyfran o'r bara a chaws eilwaith; talodd hefyd am hanner peint o gwrw i'r creadur anffodus. A throes Joe tua thŷ ei frawd yn llawen, gan deimlo iddo wneud ei ddyletswydd tuag at ddyn — ef ei hun — ac anifail — Sam. Sylweddolodd cyn bo hir fod Sani wrth ei sodlau, a gofynnodd iddo, yn dawel a charedig, fynd adref, os gwelai'n dda. Ond dal i ddilyn a wnâi Sam, a dechreuodd Joe chwilio am reg neu ddwy i'w erlid ymaith. Cododd Sam ei lygaid mawr edliwiol i wyneb y gŵr bonheddig a dalasai am fara a chaws iddo; ond os na fedrai, meddai Joe wrtho'i hun, ennill meistrolaeth ar fymryn o gi, pa siawns a oedd ganddo yn erbyn y byd mawr a godasai ei ddyrnau i'w erlid ef, Joe Hopkins, ers blynyddoedd bellach? Damo, yr oedd yn rhaid iddo ddangos ei nerth; dyna fu ei wendid ef erioed—rhy garedig, rhy garedig o lawer, rhy fwyn a thyner a thosturiol. Pobl galed a digydwybod a oedd yn dod ymlaen yn yr hen fyd yma; a dyna fe, Joe Hopkins, yn ddigon o ffŵl i dalu am swper — na, diawch ariôd, dau swper — i ryw hen gi fel hyn. Troes Joe yn sydyn a chynnig cic ffyrnig i'r ci — cic, pe buasai'n llwyddiannus, a godasai Sam i blith y sêr. Ond taerech, o'i weld yn hofran yn yr awyr am ennyd, mai rhoi cic iddo ef ei hun a wnaethai Joe, a phan ddisgynnodd yn swp ar y