Tudalen:O Law i Law.pdf/92

Gwirwyd y dudalen hon

mai tynnu coes y gynulleidfa yr oedd. Dro arall, rhuthrai'r cowboys ar geffylau yn wysg eu cefnau ar draws y gynfas wen, ac uchel fyddai anogaeth y seddau blaen. Torrai'r ffilm yn bur aml, a rhuthrai'r bachgen a oedd wrth y drws i dynnu'r weiren arall a hongiai o'r lamp nwy, tra ceisiai Joe lynu'r ddau ben toredig wrth ei gilydd. Beth bynnag fyddai'r olygfa — dan do neu yn yr awyr agored — llifai'r 'glaw' i lawr tros y llen, a chwistrellai i fyny o'r gwaelod hefyd yn llif dibaid. Byr ac afrwydd oedd pob llun, ond deffroai newydd-deb y peth chwilfrydedd a syndod mawr. Onid oedd y bobl frysiog hyn yn byw ac yn symud? Ac yn ein mysg ni, blant yr ysgol, daeth y cowboy, George Anderson, a'r ferch hardd, Florence Turner, a'r hen forwr digrif, John Bunny, a'r ei hynod, "Jean", yn gymeriadau agos ac annwyl iawn. Beiem Joe Hopldns yn llym, wrth gwrs, os torrai'r ffilm pan fyddai Anderson yn carlamu ar gefn ei geffyl i achub ei gariad o grafangau'r dyhirod. Uchel y lleisiem anogaeth i Anderson; uwch y gwaeddem "Bw!" ar Joe pan dorrai'r ffilm.

Denodd y peiriant a'r darluniau lond y lle o bobl i'r Neuadd bob nos am wythnos gyfan, a breuddwydiai Joe Hopkins freuddwydion melys am ei fywyd newydd yng nghanol yr esmwythderau a'r danteithion a ddygai cyfoeth iddo. A damo, ar ôl yr holl driciau a chwaraesai Ffawd ag ef, oni haeddai ef gysur a digonedd? Talodd am beint bob un i'w gyfeillion diddan yn y Red Lion, ac addawodd, wrth wylio Sam yn llyfu gwaelod ei chweched gwydryn, y codai ysbyty a neuadd newydd a phrom wrth lan y llyn a myrdd o bethau eraill yn yr ardal. Edrychodd derbynwyr y peint arno gydag edmygedd syn a dwys, a dywedai pob un ohonynt wrth ei gilydd—ond yng nghlyw Joe — nad oedd neb yn y pentref yn deilwng i ddatod carrai ei esgidiau. Ac uwch yr ail beint a roes iddynt, aethant gam ymhellach a haeru nad oedd neb yn y sir yn deilwng o'r fraint honno. Aeth Joe yn rhy feddw — ac yn rhy dlawd — i roddi iddynt drydydd peint a'r cyfle i wneud y "sir" yn "Gymru gyfan", ond enillodd Wil Feddw y gymwynas honno trwy ddadlau'n groyw mai dyfais Joe ei hun oedd y peiriant a daflai'r darluniau byw ar y llen. Ni chymerodd Joe ran yn y ddadl, dim ond awgrymu'n gynnil i ba ochr y gwyrai ef trwy dalu