Tudalen:O Law i Law.pdf/94

Gwirwyd y dudalen hon

yn ô1 y gofyn, canem fel ceiliogod, cyfarthem fel cŵn — yn wir, yr oeddym fel dau fwnci ysgafndroed a swnllyd y tu ôl i'r llen. Dangosai Joe y lluniau inni ymlaen llaw, wrth gwrs, a gwnaem ninnau nodiadau swnyddol (os oes y fath air) arnynt. Ond ar waethaf pob nodiad, syrthiai'r gansen ar y glustog ledr neu'r blocyn i'r dŵr eiliadau yn rhy hwyr yn bur aml. A deuai "Rhy hwyr, Johnny." neu "Deffra, Dic." neu "'Roedd o'n gelain ers meitin, hogia'."yn uchel o blith y seddau blaen.

Nid ychwanegodd ein hymdrechion at nifer y gynulleidfa, a chrafodd Joe ei ben eilwaith. Ymgynghorodd hefyd â rhai o'i gyfeillion doeth yn y Red Lion, a'u barn unfrydol hwy oedd mai'r aros hir rhwng pob darlun ydoedd y gwendid mawr. Awgrymodd un neu ddau y dylai Joe ganu o'r llwyfan i lenwi'r bwlch, ond atebodd yntau fod edrych ar ôl y peiriant yn unig yn ddigon o waith i unrhyw fod meidrol. Cynigiodd Wil Feddw ddweud stori neu ddwy rhwng y darluniau, ond edrych i lawr eu trwynau i'w gwirod a wnâi pawb. Pan welodd un ohonynt yr her yn llygaid Wil, brysiodd i fynegi barn y cwmni nad oedd amheuaeth o gwbl, dim gronyn o amheuaeth, am athrylith Wil fel storïwr, ond nad oeddynt yn sicr, yn hollol sicr, fod chwaeth cynulleidfa mor afrywiog â honno a geid yn y Neuadd wedi cyrraedd safon mor uchel ag un y Red Lion. Trueni fyddai i ŵr galluog fel ef wastraffu ei ddoniau mewn lle anghymwys, taflu ei berlau o flaen moch, rhoi cyfle i broffwyd gael ei anwybyddu yn ei wlad ei hun, a . . ac felly mlaen. Ymdawelodd Wil ac ordro peint arall. Yna digwyddodd Ellis Ifans, Tyddyn Llus, daflu ei lygaid i gyfeiriad Sam, wedyn o Sam at Joe ac o Joe at Sam. Beth am ddysgu i Sam wneud triciau - eistedd i ymbil, cyfrif â'i bawen, neidio trwy gylch, cludo pethau yn ei geg, cerdded ar ei draed ôl? Fe gofiai ef am hen gi yn yr Hafod ers talm a fedrai ddal ffon ar flaen ei drwyn. Talodd Joe am beint i Ellis Ifans, a throes tua'i lety yn berffaith sicr mai Sam oedd ei gyfaill pennaf yn y byd.

Bu wrthi hyd berfeddion y nos yn ceisio gwneud Sam yn deilwng i ymddangos ar lwyfan, ond aeth i'w wely o'r diwedd yn argyhoeddedig mai gorweddian yn swrth, hel ei damaid o dŷ i dŷ, a llawcio diferyn o gwrw'r Red Lion oedd yr unig