Tudalen:O Law i Law.pdf/98

Gwirwyd y dudalen hon

dywed? 'Roedd o ar y bwrdd 'ma funud yn ôl. 'Ydi o gen' ti? Wel, lle gynllwyn y gall o fod? 'Wyt ti'n siŵr na roist ti mono fo yn y sosban? Daria, dyma fo, fachgan, yn fy mhocad i. Dal y llwy i'w roi o yn y sosban. Reit. I mewn â fo. Ara' deg eto, John, ara' deg. Wel, dyna'r tri i mewn, fachgan. Aros di, 'faint ydi hi o'r gloch, dywed? Chwartar i wyth i'r funud. Cadw di dy lygaid ar y cloc 'rŵan . . . Pedwar munud, yntê, Elin? . . 'Ron i'n meddwl 'mod i'n iawn. Chwartar i wyth a phedwar munud, dyna . . dyna un munud ar ddeg i wyth. Rhaid inni ofalu 'u tynnu nhw un munud ar ddeg i wyth, John. Twt, be' mae'r merched 'ma yn gwneud cymaint o ffys am gadw tŷ, dywed. Aros di, 'roist ti ddŵr yn y tegell inni gael 'paned? Wel, na, mae o'n wag, fachgan. Llanwa fo, John; mi gadwa' i fy llygaid ar y cloc am funud . . 'Oes 'na ragor o halen yn y tŷ 'ma, Elin? Ymh'le? Wel, dyna le dwl i gadw halen. Lle mae'r pupur hefyd, Elin? Fy mrathu i? . . 'Dwn i ddim lle i roi fy llaw ar ddim yn fy nhŷ fy hun . . . Mae arna' i ofn bod y llefrith 'ma wedi suro, Elin. Y? Tun o gondense? Ymh'le? . . .Dos i nôl tun o gondense o'r silff ucha' yn y cwpwrdd dan grisia', John . . . Lle 'rwyt ti'n cadw'r peth agor tunia', Elin? Yn y drôr? Reit . . . Estyn y tun-opnar o'r drôr 'na imi, John. Na, agor di'r tun tra bydda' i yn torri tipyn o fara-'menyn. Mi gawn ni champion o swpar 'rŵan, wel'di. Tyd â phot jam hefo chdi pan fyddi di wedi gorffan agor y tun 'na. A thamaid o gaws hefyd. 'Rargian, 'ydi'r wyau 'na'n dal i ferwi gen' ti o hyd? A fìnna' wedi gofyn iti gadw dy lygaid ar y cloc. Un munud ar ddeg i wyth ddeudis i wrthat ti. Un munud ar ddeg i wyth, a dyma hi bron yn wyth bellach. Ond wyt ti yn un da i helpu dy dad? Estyn wy arall inni gael ei ferwi o i dy fam, a rho fo ar y tân tra bydda' i'n torri bara-'menyn go dena' iddi hi. Tyd, cyffra, John . . ."

Ac wedi'r holl ffwdan eisteddem i lawr, a hithau'n tynnu at naw o'r gloch, wrth fwrdd heb liain arno i fwyta dau wy fel bwled a bara-ymenyn fel gwadnau clocsiau, ac i yfed te â blas mwg yn gryf arno. Edrychai'r dorth druan fel petai byddin o ddynionach wedi cloddio ogof ynddi. Na, nid ydym ni'r chwarelwyr o fawr werth yn y tŷ, y mae arnaf ofn.