Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ympop dyn y may eneit
Ympop eneit y may deall
Ympop deall y may meddwl
Ympop meddwl y may naill ae drwc a e da
Y mut a ddywait y gwir
Y march a vram a ddwc y pwnn
Y march a wich ys ef a ladd
Y march a wyl yr yd ac ny wyl y cae
Ymryson ar gof yn i efail
Ymryson a doeth ti a vyddy ddoethach
Ymryson a fol ti a vyddy folach
Ynaill wenwyn a ladd y llall
Y nep a vo a march at ei elw, a gaiff benffic march
Y nep a vo marw er bigwth &c
Y nep ae ry vostio ehun, a baw y coroner
Ynuyd a gabl i wrth ban