gyda rhan o'r ymfudwyr, a'r lleill yn cael eu gyrru yn ol gan yr erlynwyr. Mawr oedd eu trallod a'u helbulon, ond nid oedd pall ar eu dewrder; ac ym mhen yspaid o amser llwyddasant hwythau i ddianc, a chafodd yr holl gwmni gyfarfod eilwaith ar ddaear estronol.
Gwyddis fod Holland, yn y blynyddau y cyfeiriwn atynt, wedi bod yn dra charedig tuag at y sawl a erlidid o achos cyfiawnder. Yr oedd y wlad wedi bod mewn rhyfel maith gyda'r Hispaen, ac wedi sefyll yn bur i achos Protestaniaeth. Dan deyrnasiad William y Tawel yr oedd rhyddid crefyddol yn cael ei estyn i bawb yn ddiwahardd. Yn yr adeg hon aeth lliaws o Anghydffurfwyr gore Lloegr drosodd i Holland am gysgod a nodded, hyd nes yr elai yr aflwydd heibio. Un o'r rhai cyntaf i alw eu sylw at hyny oedd John Penri, y Merthyr Cymreig. Ychydig cyn cael ei ddienyddio, ysgrifenodd lythyr i ffarwelio â'i frodyr yn y ffydd; ac yn wyneb y creulonderau oedd yn ymosod arnynt, y mae yn eu hannog i ymfudo i wlad lle y cawsent ryddid a llonyddwch i addoli Duw. Y mae, hefyd, yn deisyf arnynt fod yn dyner wrth ei weddw a'i blant. I'r sawl sydd wedi talu sylw i hanes Penri, y mae'r cwestiwn wedi ymgynnyg,—Beth a ddaeth o'i deulu ar ol ei farwolaeth gynarol ef? Y mae'r cwestiwn yn cael ei ateb yn hanes y Pererinion. Cafodd gwraig