arllwysai y fath fiwsig melodaidd nes swyno duwiau a dynion. Drannoeth, cafodd Plato ei ddwyn ger ei fron, a theimlai Socrates ar y pryd fod ei freuddwyd wedi cael ei gyflawni. Fel yna, y mae rhamant wedi paentio y berthynas oedd rhwng y ddau athronydd. Cafodd Plato ei symbylu at bynciau mawrion athroniaeth gan Socrates; ond ni fuasai Socrates byth yn cyrraedd y fath ddylanwad oni bai am waith Plato yn casglu, yn addurno, ac yn grymuso ei olygiadau. Bu efe am ddeng mlynedd yn eistedd wrth draed Socrates, hyd farwolaeth y doethawr. Wedi hyny, ymneillduodd i dref o'r enw Megara, dipyn o bellder o Athen, lle yr ymgysegrodd i'r gorchwyl o ysgrifenu y gweithiau hyny sydd yn meddu y fath ddylanwad ar efrydwyr athronyddol ym mhob parth o'r byd hyd heddyw, ac a barhant i lefeinio meddyliau hyd ddiwedd amser.
Gwnaeth Plato wasanaeth mawr i'w oes trwy ddyrchafu meddyliau dynion at yr ysbrydol a'r anweledig. Y mae crefydd yn ffurfio rhan fawr o'i athroniaeth. Yn mysg pethau ereill, sonia yn fynych am anfarwoldeb. Ceir hyn, yn benaf, yn y llyfr a elwir Ymddyddanion. Yn hwnnw, y mae yn siarad gan mwyaf ym mherson Socrates. Fel y nodwyd o'r blaen, cafodd Socrates ei ddedfrydu i farw oblegid ei olygiadau crefyddol. Ond cafodd adeg ei farwolaeth ei ohirio dros