Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dihafal yr Alban (1759), a Goronwy Owen, enwog, anffodus, yr hwn a aned ar ddydd Calan 1746. Ac er maint ei drallodau, yr oedd ganddo air da i'r Calan yn wastad:-

"Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi
Da, coeliaf ydyw Calan,
A gwyl a ddirperai gân,
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf."

Chwareu teg i Oronwy. Gwyddai beth oedd bod ar y domen, lawer egwyl, ond ni felldithiodd ddydd ei enedigaeth. Eithr at enw a gwaith gŵr arall yr ewyllysiwn arwain y darllenydd y mis hwn—Peter Williams; neu fel y byddai yr hen bobl yn arfer ei alw, ar gyfrif anwyldeb—"Yr hen Bitar." Brodor ydoedd o sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef yn Llacharn, Ionawr 7, 1722. Cafodd addysg foreuol dda, a bwriedid ef i'r offeiriadaeth yn Eglwys Loegr. Ond daeth dan ddylanwad Whitfield, ac ereill o'r diwygwyr, ac effeithiodd hynny ar ei ysbryd, ac ar ei lwydd yn ei yrfa glerigol. Ystyrrid ef, medd Mr. Charles, yn "grefyddol wallgofus gan yr awdurdodau eglwysig, ac nid oedd iddo yn un man ddinas barhaus. Yn mhen ysbaid, ymunodd â'r Methodistiaid fel pregethwr teithio, a gwnaeth waith rhagorol. Bu yn fendith i lawer o eneidiau yn y dyddiau tywyll yr oedd