Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid ydyw Plato yn gallu dirnad y gwirionedd fod yn rhaid i ddrwg gael ei gosbi, fod llywodraeth foesol Duw yn gofyn am ryw ystad lle y caiff pob camwri ei uniawni, rhinwedd ei wobrwyo, a'r lle y caiff y bywyd dynol ymddatblygu yn oes oesoedd.

Yr oedd Socrates a Phlato, yn ol y goleuni a feddent, yn credu mewn anfarwoldeb personol, ac yn dyheu am dano. Mae lle i ofni fod doethion Groeg yn peri cywilydd wyneb i luaws o ddoethion yr

oes oleu hon." Mae llawer o honynt hwy yn diddymu anfarwoldeb personol, ac yn gwynfydu uwchben yr hyn a elwir ganddynt yn anfarwoldeb dylanwad. Eu hiaith ydyw,

"May I reach
That purest heaven, and be to other souls
That cup of strength in some great agony.
Be the sweet presence of a good diffused,
And in diffusion ever more intense,
So shall I join the choir invisible,
Whose music is the gladness of the world."

Yn ol yr athrawiaeth yna, nid oes dim yn bod wedi'r "cyfnewidiad rhyfedd" ond enw, ac yn ol fel y byddo dyn wedi llwyddo i wneyd marc yn y byd, y cedwir hwnnw rhag cael ei olchi ymaith yn llwyr gan dònau amser. Anfarwoldeb yn wir! Gwell genym anfarwoldeb Plato a Socrates na hwnyna; ond mwy gogon-