dros feusydd ehangfaith y ffurfafen. Dacw'r Pleiades (y "Tŵr Tewdws ") a'i osgorddlu. Ar ei ol daw Orion ("Llathen Fair") a'i sêr tanbaid; ar ei aswy y mae Castor a Pollux (y ddau efaill). Mewn cwr arall y mae yr Arth Fawr (Saith Seren y Llong) fel mynegfys yn cyfeirio at Seren y Gogledd. Ond rhaid i ni ymatal. Digon ydyw dweud fod teuluoedd y sêr wedi eu dosrannu a'u lleoli, a bod y rhan fwyaf o'r planedau wedi eu darganfod yn y cyfnod hwn, —cyfnod y llygad noeth.
Ond yr oedd cyfnod arall yn ymyl, ac yr oedd "gwaith ei fysedd Ef" i ddisglaerio mewn goleuni mwy llachar nag erioed. Adwaenir hwnnw fel cyfnod y Teliscop, a Galileo oedd ei apostol cyntaf. Fel hyn y bu. Clywsai fod gwneuthurwr llygad-wydrau, Ellmyniad o genedl, wedi digwydd rhoddi dau wydr—un yn concave, a'r llall yn convex—ar gyfer eu gilydd, ac iddo gael eu bod yn dwyn y pell yn agos! Felly y cafwyd gafael yn y syniad cyntaf am y teliscop. Lluniodd Galileo offeryn iddo ei hun. Gwnaeth lawer cynnyg. Ond, un noson, gosododd ei deliscop ar y lleuad, ac am y waith gyntaf yn hanes dyn, efe a ganfu fynyddoedd y lloer! Beth oedd ei deimladau ar y pryd? Hawdd credu fod ei galon yn dirgrynnu gan lawenydd, a'i ysbryd athrylithgar yn ategu geiriau y Salmydd "Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith