ar y pwnc. Ond beth a roes fôd i'r traddodiad? Pa fodd y daeth enw Dewi Sant yn ddylanwad mor fawr ar genedl y Cymry? Oni fu yno ŵr yn y Deheubarth, mewn oes foreu yn hanes ein gwlad yn bregethwr cyfiawnder, a'i fywyd pur, diwair, fel goleuni santeiddrwydd yng nghanol caddug ofergoeledd ac anfoes? Oni hauodd efe hâd da yn naear meddwl a chymeriad ei oes,—hâd sydd yn para i dyfu hyd y dydd hwn? Yn nhreigliad amser, ymgasglodd traddodiadau o gwmpas ei enw, fel y mwsog o gwmpas bôn y pren. Daeth yn arwr rhamant a chân.
Nid oedd y pethau hyn yn wir llythyrennol, fel y multiplication table, neu osodiadau Euclid. Ond oni allent gynnwys gwirioneddau delfrydol (ideal truths)? Dichon nad ydyw yr hanes am Arthur, ei farchogion, a'i lŷs, yn meddu ystyr lythrennol, ond y mae yna ddelfrydau ardderchog yn gorwedd ynddo. Yr un modd am y chwedloniaeth sydd wedi tyfu oddeutu enw Dewi Sant. Y mae'r amwisg dlos, ramantus, yn cynnwys gwirioneddau delfrydol sydd i ennill nerth ar feddwl ein gwlad. Os ydyw Arthur i ddod yn ol i adfer puredd a gogoniant bywyd, y mae Dewi Sant i adgyfodi drachefn gyda gwladgarwch Cymru.
Beth ydyw ystyr y chwedl ddarfod i fryn gwyrddlas godi dan ei draed? Onid dameg ydyw o ddylanwad ei ysbryd a'i waith? Ac