Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

onid dyna y rheswm paham mai efe,—yn anad un o arwyr y gorffennol,—a gofir gennym ar uchel wyl gwladgarwch? Dyna genadwri Dewi Sant, apelio at galon ac ymdrech y Cymro ym mhob rhan o'r byd i wneud ei oreu i godi "bryn gwyrddlas ei genedl o wastadeddau y gorffennol,—"codi'r hen wlad,"—nid yn "ei hol," ond yn ei blaen, yn uwch, yn well, yn burach nag y bu erioed. Ac ar y cyfrif hwn y mae "Dydd Gwyl Dewi " yn haeddu y warogaeth a delir iddi bob blwyddyn. Gall yr hen lenyddiaeth sydd wedi croniclo ei wyrthiau golli ei hystyr gyntefig; ond y mae y delfryd gwladgarol sydd wedi bod yn llechu rhwng ei phlygion, i aros mewn gogoniant a swyn. Gallwn roesawu'r traddodiad ar gyfrif yr ideal sydd ynddo, yng ngeiriau ein cyd-wladwr,-Syr Lewis Morris,—

"Draddodiad mwyn ein dysgu'r wyt
Am gadarn fraich a llais,
Sydd eto i adferu'n gwlad
O rwymau trymion trais.
 
"Tyrd, Bresenoldeb dedwydd,
Gwisg dy oleuni mâd,"
Mae Cymru'n disgwyl; tyrd yn wir
I godi'n hanwyl wlad!"