swynol, mewn meddwl ac iaith. Dyna George Herbert (1593), y bardd crefyddol mwyn; Raphael (1486), yr arlunydd byd-glodus, a Shakespeare (1564), tywysog yr awenwyr oll. Ond y mae yna ambell i gymeriad yr ydys yn cysylltu rhywbeth tra gwahanol i heulwen Ebrill â'u henwau, ac â'u gwaith. Dyna Bismark, y dyn gwrolfryd, a haiarnaidd hwnnw. Hawdd fuasai credu iddo ddod i'r byd yn nghanol ystormydd y gauaf, ond cymerodd y digwyddiad pwysig le ar y cyntaf o Ebrill (1815). Na haered neb mwy mai "ffyliaid " sydd wedi meddiannu y cyfryw ddydd!
Ac un o enedigion Ebrill ydoedd Oliver Cromwell, y gŵr a greodd y fath chwyldroad mewn byd ac eglwys; un o'r cymeriadau hynotaf, grymusaf, ar lechres hanes maith ein gwlad. Ie, ar y 25ain o'r mis hwn, yn y flwyddyn 1599, y ganwyd Cromwell, yn Swydd Huntingdon, Deheubarth Lloegr. O du ei dad, yr ydoedd yn Gymro. Hanai ei wehelyth o sir Forganwg; eu cyfenw ydoedd Williams; ond drwy gysylltiad priodasol mabwysiadodd un ohonynt yr enw Cromwell, ac aeth y "Williams" o'r golwg. Ond y mae'r ffaith yn aros. Yr oedd y gwaed Cymreig yng ngwythienau Cromwell, gwaed brŵd, cyffrous, hen dywysogion y Deheubarth. O du ei fam, yr oedd yn perthyn i linach y Stuarts, ac yn garenydd, yn ol y cnawd, i