Charles I., y brenhin cyndyn a ddibenodd ei yrfa dan fwyell y dienyddwr.
Treuliodd Cromwell fore ei fywyd mewn neillduaeth. Cafodd addysg dda, ac wedi dod i oedran gŵr troes ei fryd at amaethyddiaeth. Nid meudwy mohono, ond nid ymollyngai i rysedd ac anfoes. Daeth dan ddylanwadau crefyddol dyfnion. Bwriodd ei goelbren gyda'r Piwritaniaid, a daeth i feddwl yn ddwys ar y materion oedd yn ymweithio yn y deyrnas yn y blynyddau hynny. Ffynai yr ysbryd Pabyddol yn y llysoedd uwchat. Amcanai y brenhin lywodraethu ar wahan i farn cynrychiolwyr y bobl. Yr oedd rhyddid gwladol, a llais cyd- wybod ar faterion crefyddol, yn cael eu sarhau, eu torfynyglu, a'u llethu, ar bob llaw.
Yn ystod yr adeg, cafodd Cromwell ei anfon i'r Senedd fel aelod dros Swydd Huntingdon, a thrachefn fel aelod dros Gaergrawnt. Ychydig o ran a gymerai yn y Tŷ. Siaradodd unwaith neu ddwy,-dyna'r oll. Aeth y Brenhin i gredu y gallai wneyd yn well heb Senedd o gwbl, a dychwelodd Cromwell adref. Nid oedd yr alwad effeithiol wedi dod eto. Ond yr oedd pethau yn mynd waeth waeth yn y deyrnas. Yr oedd Laud, Stafford, a'r brenhin yn cyd- ymgais i sicrhau unbenacth gormesol a thrahaus. Meddyliai Cromwell am ymfudo i'r Amerig, o ganol y gormes a'r blinderau oedd yn gordoi y