Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ferched ardderchocaf Prydain; un y gellir dweyd am dani, fel Olwen, fod blodau yn tyfu yn ol ei throed, un ag y mae ei henw persain wedi ei gydblethu â hanes goreu ein gwlad,—

"A lady with a lamp shall stand
In the great history of the land:
A noble type of good
Heroic womanhood."

"A lady with a lamp." Ac wedi i'r foneddiges ei hun gilio o'r golwg fe erys y lamp,-y llusern fechan, gannaid honno i oleuo, ac i ddi-ddanu meddyliau ysig am lawer cenhedlaeth ac oes. Amlycach na brwydrau y Crimea fydd y lamp yn ysbyty Scutari.