gwŷr ieuainc a geisient adfer difrifwch a phurdeb i fywyd y brif-ysgol eu llysenwi yn "Fethodistiaid," enw sydd bellach wedi ei ddyrchafu o ddinodedd, ac wedi dod yn rhywbeth i ym- ffrostio ynddo, ac i'w arddel gan filoedd.
Pan oedd John Wesley yn lled ieuanc, cafodd ar ei feddwl i fynd drosodd i'r Amerig fel cenhadwr. Ar ei fordaith yno daeth i gyffyrdd- iad â'r Morafiaid, ac arweiniodd hyny i ganlyniadau pwysig yn ei hanes. Rhoddent hwy y pwys mwyaf ar grefydd brofiadol, a thystiolaeth fewnol yr Ysbryd yn enaid dyn. Ar y pryd, yr oedd Wesley yn eglwyswr,-yn uchel eglwyswr. Rhoddai y sylw manylaf i ddefodau, ympryd, dyddiau gwyl, &c. Ac ni fynai gydnabod neb ond y sawl oedd wedi eu hordeinio gan ddwylaw esgobol. Ychydig fu ei lwydd fel cenhadwr yn Georgia. Yr oedd ei olygiadau yn gwrthdaro yn erbyn syniadau dyfnaf y bobl.
Daeth yn ol i Lundain, a dechreuodd gyfeillachu â'r Morafiaid yn Fetterlane. Daeth dan ddylanwad Peter Bohler, ac yn raddol torodd goleuni newydd ar ei feddwl, goleuni oedd i weddnewid ei holl hanes. Nis gallwn ymdroi gyda'r pwynt hwn, er ei fod yn allwedd i lafur John Wesley. Yr oedd yn cynnwys ymwybyddiaeth o'r gwirionedd a bregethid gan Paul,
Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig; trwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain."