Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iachawdwriaeth yn gwbl o ras, ac yn ddigonol i'r penaf o bechaduriaid. Yn ngrym yr argyhoeddiad newydd hwn (oherwydd dyna ydoedd yn ei olwg ef), enynwyd ynddo awyddfryd i bregethu yr efengyl, a hynny i bawb, mewn amser ac allan o amser. Dyna ddechreu y mudiad a wnaeth gymaint i ddyrchafu y bobl,-pregethu yn yr awyr agored. Dechreuodd y gwaith da hwn yn Bristol; ac yno yn mis Mai, 1739, y gosodwyd careg sylfaen y capel cyntaf gan y Methodistiaid. Yn y flwyddyn ddilynol y rhoddwyd bôd i'r Gymdeithas Wesleyaidd yn Moorfields, Llundain. Y mae hanes Wesley fel efengylydd yn debyg i'r eiddo Howell Harris yn Nghymru. Teithiai o'r naill dref a phentref i un arall, ar bob tywydd, a chyhoeddai yr efengyl i bawb a ddeuai i wrando arno. Cafodd ei erlid, ei faeddu, ei boeni mewn mil o ffyrdd. Gwaredwyd ef o grafangau dinystr; ond yr oedd ei sel yn llosgi ac yn goleuo, a daeth y bobl yn raddol i lawenychu yn ei oleuni. Meddai ar benderfyn- iad gwronaidd, a gallu i gyfaddasu ei hun ar gyfer pob argyfwng y caffai ei hunan ynddo. Edrychai ar y byd fel ei " blwyf." "The whole world is my parish" oedd ei arwyddair. Aeth i Epworth ar ei hynt, lle y bu ei dad yn glerigwr, ond rhwystrwyd ef i fynd i'r eglwys. Pregethodd yntau oddiar gareg fedd ei dad, ac yr oedd miloedd yn ei wrando. Daeth i Gymru, a chyd-