lafuriodd lawer gyda Whitfield a Howell Harris. Mae'n wir iddynt ysgar oddiwrth eu gilydd ar gyfrif gwahaniaeth golygiadau athrawiaethol: Ond yr oeddynt yn coledd y serch puraf y naill at y llall.
Croesodd y Sianel i'r Iwerddon dros ddeugain o weithiau, er mwyn mynd â'r efengyl i drigolion truain yr Ynys Werdd.
Ac heblaw ei lafur anhygoel fel pregethwr teithiol, yr oedd yn gwasanaethu ei bobl mewn llawer cyfeiriad arall. Ysgrifenodd yn helaeth ar faterion cymdeithasol. Condemniodd y gaeth fasnach, a'r fasnach mewn diodydd meddwol, cyn i'r un diwygiwr arall godi ei lef. Dysgai yn bendant nad oedd gan y Llywodraeth hawl i godi ei chyllid oddiar fasnach oedd yn darostwng ac yn dinystrio y bobl. Bu yn parotoi, ac yn lledaenu llenyddiaeth iachus a rhad cyn i'r Tract Society gael ei bôd. Ac y mae ei ysgrifeniadau ef ei hun yn llu mawr. Dywed y beirniaid fod ei "Ddydd-lyfrau " (Journals) yn gyfryw o ran teilyngdod ag i'w gosod yn mysg clasuron crefyddol yr iaith Seisnig.
Cafodd oes faith, ac ni phallodd ei nerth hyd y diwedd. Yr oedd yn pregethu ac yn gofalu am fuddiannau Methodistiaeth yn mhell wedi croesi rhiniog pedwar ugain oed. Ond daeth yr adeg i orffwys. Wedi teithio dros ddau cant a phump ar hugain o filoedd o filldiroedd gyda gwaith ei Waredwr, wedi traddodi hanner can'