Prawfddarllenwyd y dudalen hon
JOHN CALVIN.
GORPHENAF 10, 1509.
Oh, for an hour of Luther now!
Oh, for a frown from Calvin's brow!
Once they broke the Papal chain,
Who shall break it now again?"
—Baptist Noel.
AR y degfed dydd o fis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1509,—yn agos i bedair canrif yn ol, yn Noyon, tref fechan o fewn talaeth Picardy, yn Ffrainc,—y ganwyd John Calvin,—un o dri chedyrn cyntaf y diwygiad Protestanaidd. Cyfreithiwr eglwysig oedd ei dad, a chafodd y bachgen fanteision addysg oreu y cyfnod hwnnw. Aeth i Paris yn bur ieuanc, a phrofodd fod ynddo ddefnydd ysgolhaig manwl a galluog. Daeth bywoliaeth eglwysig i'w ran cyn bod yn ugain