oed, ond ni chafodd ei urddo yn ffurfiol i'r offeiriadaeth. Yr oedd ei dad yn awyddus iddo astudio y gyfraith, gan y credai fod ynddo allu i ragori fel dadleuydd cyhoeddus. Ac yr oedd Calvin ieuanc yn gogwyddo mwy at y ddeddf nag at yr Efengyl. Rhoddes y fywoliaeth eglwysig i fyny; aeth drachefn i Orleans i astudio cyfraith gwlad. Yr oedd ei gynydd yn gyflym a sicr. Enillodd y gradd o doctor of laws. Ond yr oedd dylanwadau ereill yn cylchynu ei fywyd. Daeth i gyffyrddiad âg ysbryd y diwygiad, a dechreuodd astudio ei Fibl. Daeth o dan argyhoeddiadau dyfnion, dwys. Ni bu chwyldroad yn ei fywyd fel Luther, ond yr oedd ei lwybr fel y goleuni tawel, yn cynyddu yn raddol, o'r wawr i gyfeiriad canol dydd.
Wedi marw ei dad, ymsefydlodd am gyfnod yn ninas Paris, gan ymroi i astudio duwinyddiaeth. Yr oedd athrawiaethau y diwygiad yn prysur lefeinio meddyliau. Daeth Calvin yn fuan i'r golwg ar gyfrif ei alluoedd a'i waith. Taflodd ei hun i'r ymdrech, ymgodymai âg arweddwyr y Babaeth, a chynhyrfodd ysbryd erledigaeth fel y bu raid iddo ffoi o Paris i Basle yn Switzerland, ac yno, yn y flwyddyn 1536, y cyhoeddodd ei Institutes anfarwol. Addefir fod hwn yn un o'r llyfrau mwyaf grymus a gynyrchwyd yn hanes duwinyddiaeth. Erys yn gofadail aniflanol i alluoedd ei awdwr.