holynwyr sydd wedi bod yn Lloegr yn halen y ddaear hyd heddyw."
Ni chafodd Calvin mo Geneva yn Baradwys mewn un modd, ac ni fu ei ymdrechion yntau i wneyd y lle yn Baradwys yn rhyw lwyddianus iawn. Ond yr oedd grym ei ysbryd a'i ddysgeidiaeth yn anwadadwy. Ni fu gelyn mwy ffyrnig i anfoesoldeb, a chyfeiliornad mewn barn a buchedd. Defnyddiai y gallu gwladol i roddi disgyblaeth eglwysig mewn grym. Yr oedd llygredigaeth eglwys Rhufain yn peri i'r diwygwyr fynd i'r eithaf arall; ond, camgymeriad oedd defnyddio grym cyfraith i orfodi dynion i ufuddhau. Yr oedd heresi a chabledd yn cael eu trafod yr un fath ag anonestrwydd neu ddynladdiad. Dyna ddygodd Servetus dan farn condemniad, a chafodd ei losgi wrth y stanc. Y mae enw Calvin yn cael ei gablu ar gyfrif y weithred hon; ond nid oedd efe yn fwy cyfrifol nac ereill o arweinwyr y Diwygiad. Dyna syniadau yr oes; nid oedd rhyddid barn a llafar wedi ei ddeall yn briodol,—mai i'w Arglwydd ei hun y mae pob meddwl yn sefyll, neu yn syrthio, mewn materion moesol a chrefyddol.
Ond yr oedd dylanwad Calvin yn cryfhau yn feunyddiol. Llafuriai mewn amser ac allan o amser. Pregethai, darlithiai, cyfansoddai yn ddiball. A gwnai hyn oll yn nghanol gwendid a llesgedd. Yr oedd yn ddioddefwr mawr, ac