A thra yr oedd efe yn canu am y "boreu wawr" a'r cadwynau'n myn'd yn rhydd," yr oedd Rhagluniaeth, mewn cwr arall o'r deyrnas, yn parotoi y dyn oedd i gorffori y drychfeddwl, ac i gludo y newyddion da i'r India bell. Ei enw ydoedd WILLIAM CAREY. Ganwyd ef yn mis Awst, 1761, mewn pentref bychan yn Swydd Northampton. Un o blant y bwthyn ydoedd, ac ni chafodd nemor ddim o fanteision addysg. Ond ут oedd yn hoff o natur, yn caru blodau ac adar â'i holl galon. Un o ddifyrion penaf ei faboed oedd crwydro'r meusydd a'r coedwigoedd mewn ymchwil am flodau gwylltion. Daeth yn naturiaethwr heb yn wybod iddo ei hun. Ni feddai lyfrau, ac ni chafodd hyfforddiant gan arall, ond meddai ddawn i sylwi, a daeth y wybodaeth a gasglodd yn y dyddiau hyny yn dra gwerthfawr iddo, wedi ymfudo i India'r Dwyrain.
Pan yn bur ieuanc prentisiwyd ef i'r grefft sydd yn gosod hynodrwydd ar dref Northampton. Onid hi ydyw Llanerchymedd Lloegr, —prif ddinas y cryddion? Ac ar fainc y crydd yr oedd William Carey i dreulio blynyddau, mewn ymdrech galed am ei fywoliaeth. Ond yr oedd dylanwadau ereill ar waith, er yn ddistaw a chudd. Daeth y gŵr ieuanc i wybod am argyhoeddiadau crefyddol dwys. Enynwyd ynddo awydd am wybodaeth; a thra yn trwsio