iaid, a chafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Presbyteriaid. Ymsefydlodd yn Worthenbury, plwyf bychan yn y rhan honno o Swydd Fflint sydd yn llechu yn mynwes Sir Gaer, yn nghwmwd Is y Coed. Praidd bychan oedd o dan ei ofal, mân-dyddynwyr, gan mwyaf; a'r mwyafrif ohonynt yn ddigon dwl ac anwybodus. Yr oedd yn gryn gyfnewidiad i ŵr fel Philip Henry i gyfnewid bywyd y palas am fywyd gwledig, gwerinaidd; a chael ei ysgar oddiwrth gylchoedd cydnaws a'i wrteithiad meddyliol. Ond yr oedd y gweinidog ieuanc yn meddu argyhoeddiadau cryfion. Rhoddes ei oreu i bobl ei ofal. Ymhyfrydai mewn pregethu ac addysgu ei wrandawyr. Ac yr oedd yn y fro honno balasdy o'r enw Broad Oak, ac yno yr oedd boneddiges ieuanc, weddeiddlwys,—aeres yr etifeddiaeth. Taflodd serch ei hudlath dros y ddau. Yr oedd ei thad yn anfoddlawn ar y dechreu. "Priodi dyn diarth," meddai; "'does neb fedr ddweud o ble y daeth o." "Y mae hyny yn wir," ebai y ferch ieuanc, "ond er nas gwn o ble y mae yn dyfod, mi a wn i ble y mae yn myned, ac mi hoffwn fynd i'w ganlyn." Ac felly y bu. Ymsefydlodd Philip Henry yn y Broad Oak; yno yr oedd ei gartref am ran fawr o'i oes. Ac yno, ar Hydref 18, yn y flwyddyn 1662, y ganwyd Mathew Henry. Blwyddyn dywell oedd honno; blwyddyn troi allan y Ddwy Fil,
Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/75
Prawfddarllenwyd y dudalen hon