ianu, ac yr oedd pob munud o hamdden yn cael ei droi drosodd i wasanaeth yr Esboniad. Dywedir y byddai Pantycelyn yn codi gefn nos, lawer pryd, i ysgrifennu pennill newydd—greedig rhag ofn iddo ddiflanu cyn y boreu. Yr oedd Mathew Henry yn gweithredu yr un fath. Pan ar ei deithiau pregethwrol, cludai y celfi ysgrifennu gydag ef, a phan giliai cwsg oddiwrth ei amrantau, codai i'w ystafell, a threuliai yr amser yn felus gyda gwaith dewisol ei fywyd. Onid ar un o'r ysbeidiau nosawl hyn y dywed traddodiad i "ysbryd " ymrithio iddo yn un o hen balasau sir Gaer? Cododd yr esboniwr ei olygon yn dawel, a gofynodd i'r ymwelydd beth oedd ei neges. Hysbysodd yntau yr achos ei fod yn "trwblo" y palas, a diflanodd. Aeth yr esboniwr rhagddo mor hamddenol a chynt, heb ofn nac arswyd, fel gŵr yn meddu y ddawn i "brofi yr ysbrydion."
Parhaodd y gwaith i ddod allan yn gyfrolau trwchus hyd y flwyddyn 1714. Ond wedi i'r awdwr dyfal a duwiolfrydig gyrraedd llyfr yr Actau, daeth y wŷs i orffwys. Yr oedd actau ei fywyd yntau fel eiddo yr apostolion ar ben. Dibenodd ei yrfa yn sydyn, pan ar daith bregethwrol. Yr oedd wedi bod yn pregethu i gynulleidfa fechan yn Nantwich ar noson hafaidd ym Mehefin, a sylwid fod ei ynni arferol wedi ymado. Yn ystod y nos, cafodd ergyd o'r