Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Cowper
ar Wicipedia





WILLIAM COWPER.

TACHWEDD 15, 1731.

"Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben,
Ei ystafelloedd sy'n y môr,
Mae'n marchog gwynt y nen."

HWYRACH mai fel awdwr yr emyn uchod,—emyn a weddnewidiwyd i'r Gymraeg gan y diweddar Dr. Lewis Edwards heb golli dim o'i grym cyntefig,—y mae enw Cowper yn adnabyddus i luaws. Ceir rhyw nifer o'i emynau ym mhob casgliad.

A thra y cân yr addolydd Cymreig am y "gwaed a redodd ar y groes," bydd yr addolydd Seisnig yn canu'n llafar linellau Cowper,

"There is a fountain fill'd with blood."

Ond heblaw cyfansoddi emynau nad ânt byth i dir anghof, gwnaeth Cowper argraff arhosol ar