uchelradd, gynyg ar swydd ysgafn, ond enillfawr, yn Nhŷ yr Arglwyddi. Yr oedd un peth, fodd bynag, yn ei gwneyd yn anhawdd iddo ef; yr oedd yn ofynol iddo gyflawni rhyw gymaint o waith cyhoeddus, megis darllen cofnodau, ym mhresenoldeb y Tŷ; ac yr oedd y syniad hwnnw fel hunllef ar ei ysbryd. Yr oedd y rhagolwg yn creu arswyd o'i fewn, ac aeth y peth i bwyso mor drwm ar ei feddwl fel y collodd ei bwyll, a dyrysodd ei synhwyrau.
Ond o'r anffawd flin, dorcalonus yna, y mae y byd, o bosibl, yn ddyledus am y farddoniaeth odidog a gynyrchodd William Cowper. Gwiriwyd ei linellau adnabyddus yn ei hanes ef ei hun,
"Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn ei waith i ben."
Bu am ddwy flynedd mewn neillduaeth, dan ofal meddygol, ac wedi iddo wellhau, ac i gymylau duon anobaith ymwasgar oddiar ffurfafen ei fywyd, ymsefydlodd yn Swydd Huntingdon, ym mhentref Olney, yn nghanol gwastadedd canolbarth Lloegr. Yno daeth dan gronglwyd garedig, ac yr oedd y lle yn gydnaws â'i anian. Ffurfiodd gyfeillach agos â'r Parch. John Newton, gŵr a hanes iddo; wedi treulio bore ei oes ar y môr, yn ddigon anystyriol, ond wedi ei gyfnewid drwy ras, ac yn llawn o sel ac ymroad