foneddiges, "mi ymgymeraf a rhoddi testyn i chwi, ar yr amod fod yn rhaid i chwi ganu arno. Cewch gymeryd eich ffordd eich hun, dewis eich mesur, a mynd mor bell a fynoch oddicartref." "Beth ydyw?" ebai y bardd. "Rhoddwch chwi y dasg, ac mi ganaf innau goreu medraf." "Wel," ebai'r foneddiges â gwên yn ei llygaid, dyma'r testyn,—"Y SOFA!" Pwy glybu am y fath beth fel testyn barddonol? Beth oedd a wnelo dodrefnyn rhyddieithol felly âg awen bardd? Ond ymgymerodd Cowper â'r gorchwyl, a dyna ddechreu y gwaith barddonol a gofir mwy dan yr enw,—The Task.
Yr oedd Cowper ar y pryd yn hanner cant oed, ond o dan gyfaredd y gwaith oedd wedi ei ymddiried iddo, adnewyddodd ei ieuenctid. Dyna wanwyn ei awen; blagurodd ei alluoedd a'i ddoniau, a chynyrchodd ddernyn newydd a gorffenedig, gwaith oedd i gadw ei enw yn wyrddlas am lawer oes. Torodd lwybr newydd. Gadawodd yr hen ffurfiau barddol, ac aeth ar ei union at natur ei hun. Yr oedd Pope a'i efelychwyr yn son am Natur, yn awr ac eilwaith; ond golwg gyfyng a chelfyddydol oedd arni yn nrych eu barddoniaeth hwy. Math o ardd flodau ydoedd, wedi ei dosranu yn ofalus, ond heb ddim o'i gwylltineb a'i hoenusrwydd gwreiddiol.
Ond aeth Cowper at anian fel yr oedd, ac fel