Darganfyddwyd y wythien gyfoethog oedd yn Sartor, a daeth y meddylwyr i ddeall fod grym newydd wedi dechreu ysgogi yn llenyddiaeth yr oes. Daeth ei breswylfod yn 5, Cheyne Row," Chelsea, yn gyrchfan llenorion, ac yr oedd gwrando ymddiddanion Carlyle yn un o foethau bywyd. Ysgrifenodd ar y "Chwyldroad Ffrengig," a rhoddes fenthyg y memrwn oedd wedi costio mor ddrud iddo mewn ymchwil a llafur, i'w gymydog John Stuart Mill. Ond drwy anffawd flin, llosgwyd y papyr gan forwynig ddifeddwl. Y fath drychineb i'r awdwr! Nid oedd ganddo gopi arall o'r gwaith, a gorfu iddo ei ysgrifenu, neu yn hytrach ei gyfansoddi bob llinell drachefn. Effeithiodd y dasg ar ei ysbryd, ac ar ei iechyd, ac os dywedodd bethau celyd ar y pwnc, yr oedd yn dra esgusodol. Cafodd y llyfr dderbyniad teilwng, ac aeth y llenor rhagddo i ysgrifenu bywgraffiad John Sterling, a'r cyfrolau llafurfawr ar Oliver Cromwell. Bu y gwaith gorchestol hwn yn foddion i osod cymeriad a gwaith Cromwell mewn goleuni newydd, ac yr oedd ei amddiffyniad i un ag yr oedd haneswyr blaenorol wedi ymuno i'w ddylroni a'i bardduo, yn dystiolaeth i onestrwydd a gwroldeb yr awdwr. Ni chawn ond enwi ei Latterauy Pamphlets, a'i gyfrolau hanesyddol,—deg mewn nifer,—ar Frederic Fawr. Fel hanesydd, yr oedd ganddo amynedd diderfyn i chwilio am
Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/94
Prawfddarllenwyd y dudalen hon