ddefnyddiau, a gallu desgrifiadol na welwyd ei hafal, o bosibl. Y mae'r amgylchiadau a'r personau yn ail fyw dan gyffyrddiad ei ddarfelydd godidog. Ac yr oedd yr oll a ysgrifenodd yn ffrwyth ymroad ac egni beunyddiol. Yr oedd ei lyfrau yn gynyrchion gwynias ei feddwl, ac wedi dod, yn ol ei ddywediad ef ei hun, yn red-hot o ffwrnais ei fyfyrdod. Delfryd mawr ei fywyd fel awdwr oedd gwirionedd, veracity. Chwiliai am y gwir diffuant, ac os caffai hwnnw, yr oedd wedi cael gwreiddyn y mater. Ond pan oedd hwnnw yn absennol, nid oedd un addurn na dawn yn ddigonol i lanw ei le. Yr oedd ei gasineb at ffug a geudeb yn angerddol, a chodai ei "bastynffon geinciog at bob sham mewn byd ac eglwys. Gwnaeth waith ardderchog, a daeth yr oes i ddeall fod llenor Chelsea yn broffwyd, ac yn weledydd, yn ystyr uwchaf y gair. Dichon nad ydoedd yn arweinydd diogel ym mhob cyfeiriad. Y mae ei lyfr ar "Wroniaid" yn cynnwys athrawiaeth nas gellir ei derbyn yn awr. "The history of mankind is the history of great men," oedd ei arwyddair. Ond y mae gwir hanes dynoliaeth yn cynnwys y bach a'r mawr; ac nid yw y mawredd a glodforir gan Carlyle yn perthyn i'r dosbarth uwchaf. Y mae yn gorffwys, lawer pryd, ar seiliau anianyddol, ac yn anwybyddu yr elfen foesol mewn bywyd. Yn ngeiriau Dr. Edwards o'r
Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/95
Prawfddarllenwyd y dudalen hon