Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bala,—"Gyda phob parch i Carlyle, nis gallwn beidio meddwl fod ei olygiadau am ansawdd gwir fawredd yn dra amherffaith. Er cymaint a ysgrifenwyd ganddo yn erbyn ymddangosiadau, nid oes neb wedi talu mwy o sylw i fawredd ymddangosiadol. . . Y mawredd penaf ar ddyn yw mawredd moesol. Yn yr ystyr yma, y mae lluoedd, a aethant drwy y byd mor ddistaw ag y gallent, yn sefyll yn uwch na'r gwroniaid enwocaf y mae son am danynt ar dudalenau hanesyddiaeth."

Y mae ei olygiadau crefyddol yn anhawdd eu deffinio. Ysgrifenai gyda pharch am y Bibl, ac y mae ei gyfeiriadau at yr Iesu yn llawn o dynerwch a gwylder.

Gwelodd a phrofodd yn helaeth o flinderau bywyd, ac yr oedd ei flynyddau olaf yn eithaf pruddaidd a digalon. Cerddodd lawer, yn oriau trymaidd y nos, hyd finion y Dafwys, gerllaw Chelsea, a chysgodau afon arall ar ei feddwl, a sŵn ei thonau yn ei glyw. Tremiai yn ddwysfyfyrgar i'r dyfodol, gan gredu fod dyrysbwnc bywyd i gael ei esbonio, a bod i obeithion dyfnaf y galon loewach nen. Daeth y diwedd ar y pumed o Chwefror, 1881, a theimlai pob meddyliwr fod goleuni mawr a gogoneddus wedi gadael y byd. Cloddiwyd ei fedd, nid yn mynachlog Westminster, ond yn ol ei ddymuniad ef ei hun, yn mynwent Ecclefechan, cartref ei faboed, yn