Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR HEN GYMYDOGAETH.

I.

WEDI blynyddau o absenoldeb, cefais y dwfn bleser o dreulio wythnos yn hen ardal fy mebyd. Yr oedd yr adeg yn un hyfryd; delw haf yn argraphedig ar bob peth. Treuliwyd y dydd cyntaf yn yr "Eisteddfod Gadeiriol," cyfle manteisiol i weled llawer o gyfeillion y dyddiau gynt. Gan fod gweithrediadau y gylchwyl wedi ymddangos yn gryno ar ddalenau y newyddiaduron nid oes angen ychwanegu dim yn y cyfeiriad hwnw. Da oedd genyf weled y boneddwr o Rûg mor aiddgar a phybyr dros y sefydliad. Gall wneyd llawer o les yn y ffordd hon, a bydd yn enillydd ei hunan yr un pryd. Y mae efe eisoes yn "Anrhydeddus" o ran teitl, ond ychwanegir at ei anrhydedd os pery yn gefnogydd llenyddiaeth a chân. Llawenydd oedd genyf weled amryw o feirdd a llenorion Edeyrnion a'r cyffiniau. Yno yr oedd Rhuddfryn yn ymddangos yn wir barchedig, a'r llygaid treiddlym hyny yn edrych drwy bethau; Hywel Cernyw, yntau, yn dechreu britho, ond yn fywyd i gyd. Gyda'r brawd caredig W. R. yr oedd fy head-quarters tra yn ymdroi yma ac acw yn yr hen gym'dogaeth. Rhyfedd oedd genyf feddwl fod saith mlynedd lawn er pan fuom yn cerdded heolydd Corwen yn flaenorol! Y mae llawer cyfaill wedi ymado, ac aml i wyneb wedi newid er 187—. "Sut mae Hwn-a-hwn?" Ond nid oeddynt i'w cael; eto y mae llawer i'w canfod hyd y dydd hwn. Awn am dro ar hyd y brif heol oddiwrth orsaf y rheilffordd i waelod y dref.

Ar y chwith, dyma gapel haiarn wedi ei droi yn warehouse dodrefn, ac ymddengys yn hardd. Tebyg iawn yw yr Ysgol Frutanaidd i'r hyn ydoedd pan