Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Aberteifi, ac y mae y geiriau a ganlyn wedi eu cerfio ar y gareg fedd,—

If the captain of the Anne & Mary had the humanity to lie by the
poor sufferers for a short time, it is thought their lives would be saved."

Ac yna ceir y penill hwn,—

"Dros donau heilltion moriais,
A hwyliais uwch y lli,
Trwy 'stormydd a thymestloedd,
Ar foroedd aethum i;
A thyma'r fan gorweddaf,
Mi gysgaf hun mewn hedd,
Hyd foreu'r adgyfodiad
Yn dawel yn fy medd."

Y mae y fynwent hon yn aneddle lonydd, er ei bod i raddau yn noethlwn a diaddurn. Nid oes yma yr un "ywen ddu ganghenog" yn dyst o oesau a fu; ni welir yma yr un helygen wylofus yn crymu uwchben y bedd, ond y mae cysgod mynydd y Garn yn tori grym ystormydd y gauaf, a swn y tonau yn y gwaelodion fel dyhuddgan hiraeth—fel cwyn coll.

Careg brydferth, seml, sydd yn noddi hunell Nicander, ac y mae tywod a chregin wedi eu dodi ar y bedd. Gorphwysodd y bardd oddiwrth ei lafur yn mis Ionawr, 1874. Gerllaw iddo, y mae croes fechan yn dynodi gorweddfa "Dorothy," merch fechan ei fab, yr hon fu farw yn ddeng mlwydd oed. Tyf y fil-ddail, y feillionen goch, a llygad y dydd oddeutu'r llanerch, a sua'r awel yn y glaswellt îr. Felly y mae oreu. Ceinion natur, yn hytrach nac addurn celfyddyd, ddylai gael prydferthu gorweddfa'r bardd. Gwena'r grug ar ymylon y fynwent. Gwelir bwthyn clyd, gwyngalchog, ar y llechwedd, a chlywir lleisiau iach y plant ar eu hynt i hel mwyar duon ar y twmpathau. Tywyna heulwen Medi ar fynydd y Tŵr yn y pellder, symuda cysgodion y cymylau