Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwyd-wyn ar donau'r môr. Ac yma y gorphwys yr hyn oedd farwol o Nicander, " hyd oni wawrio y dydd, a chilio o'r cysgodau."

Tra yn sefyll ar y llecyn cysegredig, meddyliwn am linellau Islwyn, y rhai a gyfansoddwyd yn mhen ychydig ddyddiau ar ol clywed am farw'r bardd,—

"A gaf fi mwyach gu ofwyo Mon,
Gaiff cwmwl f'hiraeth oeri uwch dy fedd?
Gar fi goffhau dy felus awdlau,—son
Am d'oes o ddysg, ac am dy oes o hedd?
Gyferbyn gwelaf rosyn gloew ei fri,
A phlanaf ef ar fedd dy dangnef di.

"O Fynwy mynaf ofwy at dy fedd,
Caiff blodau Mynwy wylo gwlithion Mon
Bob boreu ar dy lwch, tra angel hedd
Yn cwyno gyda'r sêr, ar dyner dôn:
Ffarwel, Nicander hoff! Cawn gwrdd yn nghyd,
Mi wn, o gylch y bwrdd mewn gloewach byd."

Bellach, y mae'r ddau awenydd,—Nicander lawenfryd, ac Islwyn brudd-dyner, wedi cwrdd mewn "gloewach byd." Anwylwn eu coffadwriaeth. Melus fo eu hun,—y naill ar fynydd Islwyn, a'r llall yn y fynwent yn ymyl y môr.