Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r tu arall, adwaenom rai nad ydynt wedi cael mantais i "deithio," yn ystyr ddiweddar y gair; ond, drwy gyfrwng sylwadaeth feddylgar yn eu bro eu hunain, y mae ganddynt etifeddiaeth deg o wybodaeth ymarferol. Pell ydwyf o ddweyd dim yn ddifrïol am deithio na theithwyr. Goreu po fwyaf o'r byd a welir, os rhoddir chwareu teg i'r gallu sydd yn sylwi ac yn. canfod ystyr mewn pethau. Yn niffyg hyny, nid yw yr holl deithio ond cyffroad arwynebol a darfodedig. Geilw y Saeson y dosbarth yma yn globe-trotters. Y maent yn trotian yn ddibaid, ond heb aros digon yn unman i dderbyn argraff y weledigaeth. Ond, fel y dywedwyd y mae yn bosibl treulio oes led gartrefol heb grwydro rhyw lawer yma a thraw, ac eto, drwy sylwadaeth bersonol ddod yn feddianol ar lawer o wybodaeth ddyddorol i'w pherchen, a buddiol i eraill. Dichon mai y ffordd oreu i ddangos hyn fyddai crybwyll am rai o'r gwŷr hyny a roddasant achles i'r ddawn hon, ac a ddaethant, mewn canlyniad, i gael eu cyfrif yn mysg cymwynaswyr eu rhyw.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mona Antiqua Restaurata
ar Wicipedia

Un o'r gwŷr hyn ydoedd Henry Rowland, offeiriad Llanidan, ar finion y Fenai, yn Ynys Mon. Dywedir na fu y gŵr da hwn ond ychydig oddicartref yn ystod ei oes. Conwy oedd y fan bellaf, meddir. Ond gwnaeth iawn am y peth drwy sylwi yn fanylach ar yr hyn oedd o gwmpas ei gartref; ac yn enwedig traddodiadau ac olion henafiaethol. Gwnaeth nodiadau manwl o'r hyn a welai, a chyhoeddwyd ffrwyth ei sylwadau yn llyfr, ac y mae Mona Antiqua,[1] bellach, yn un o drysorau ein llenyddiaeth.

Perthyn i'r un dosbarth, ac i'r un cyfnod, yr oedd Gilbert White o Selborne, yn neheudir Lloegr. Offeiriad oedd yntau; gŵr tawel a syml, ond yr oedd yn sylwedydd cywir. Craffai ar bobpeth a welai yn ei rodfaon dyddiol. Nid oedd un creadur yn rhy ddi-sylw ganddo. Elai efe nid yn unig at y morgrugyn ond at holl breswylwyr y llwch, a throes yn fywgraffydd

  1. Mona Antiqua Restaurata ar Wiki Book Reader