Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Mr. Clarke yn ysgolfeistr. Y mae yr yard bron fel cynt, ond beth am y bechgyn a'r genethod oedd mewn afiaeth yn chwareu yma yr adeg hono? Nid ydyw ond megis doe; er hyny—

Nid oes un gloch a ddichon
Eu galw heddyw'n nghyd.

Lle mae Ivy House? Llawer gwaith y bum yno pan oedd y Parch. W—— yn weinidog yn Nghorwen. Yr ydwyf yn ddyledwr iddo am lawer o hyfforddiant a charedigrwydd. Ganddo ef y cefais waith Henry Kirke White yn anrheg. Dyma un o'r llyfrau goreu genyf hyd heddyw, oblegid efe a agorodd fy meddwl i weled rhyw gymaint o degwch barddoniaeth. Ond y mae "Ivy House" wedi peidio a bod, a'i le nid edwyn ddim. o hono mwy. Yr un pryd, rhaid addef fod yr addoldy yn edrych yn well o dan yr oruchwyliaeth bresenol. Chwith oedd genyf weled y cyfnewidiad yn siop "Robert Evans y Barbwr." Lle enwog am "sgwrs fu y siop hon. Byddai ambell un yn tynu dadl â "Bob," a gwae y neb fyddai dan yr ellyn y pryd hwnw! Collwyd llawer o waed yn y dadleuon hyn!

II.

BELLACH, ddarllenydd, ni a esgynwn i Ben-y-pigyn. Awn yn hamddenol, rhag ofn i ti gael "pigyn" yn dy ochr wrth ddringo. Bum yn ysgafn droedio y ffordd hon ganwaith er's talwm, ond yr wyf braidd yn meddwl fod y llwybr yn fwy serth nag ydoedd y pryd hwnw. "Pan ddaethum i Fangor yn llanc," ebai gwr wrthyf yn ddiweddar, "ni wyddwn fod un allt yn y lle. Erbyn heddyw y mae yn elltydd i gyd!" Y gwir yw, nid yw ieuengctyd yn meddwl am y peth, ac un o arwyddion henaint ydyw fod y gelltydd yn myned yn fwy serth.