Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt heb dâl na gwobr. Prin yr oedd dim rhyfedd yn digwydd yn myd yr adar neu y trychfilod mân yn y plwyf hwnw, heb fod y gyfrinach yn wybyddus i Gilbert White. Ysgrifenai lythyrau at un neu ddau o gyfeillion oedd yn cymeryd dyddordeb yn yr un pethau. A llythyrau hynod ydynt! Nid oes ynddynt un gair of son am ddigwyddiadau cymdeithasol. Yn yr ystyr hwn, y maent yn debyg i lythyrau Goronwy Owen. Dau beth neillduol a geir yn y rheiny—holi am ryw hen lyfr Cymraeg, neu am ryw hen offeiriad plwyf y disgwylid iddo fyn'd i wlad well. Ond am lythyrau Gilbert White, y maent yn llawn o gyfeiriadau at natur a'i phlant. Nid oedd ynddo un uchelgais i wneyd enw fel awdwr; ond, heb geisio, megis, ar bwys ei ddawn i sylwi, fe ddaeth yn un o'r awduron mwyaf dyddorol. Casglwyd ei ysgrifau yn nghyd, a chafwyd ei fod, wrth roddi hanes un plwyf, wedi croniclo pethau sydd yn meddu gwerth cyffredinol. Gwnaed y llythyrau yn llyfr, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1789—dros gan mlynedd yn ol. Y fath nifer o lyfrau a argraffwyd yr adeg hono, ac ar ol hyny, sydd wedi eu hebargofi yn llwyr! Ond y mae y Natural History of Selborne, gan Gilbert White, wedi myn'd drwy lu o argraffiadau, ac yn aros hyd y dydd hwn yn un o'r llyfrau mwyaf dewisol fel arweinydd i gyfrinion Anian. Ac y mae y byd yn ddyledus am dano i'r ffaith fod yr awdwr yn sylwedydd, wedi cymhwyso ei hun i "weled y peth fel y mae.

Gellid nodi dynion cyhoeddus, heb fod yn awdwyr, a enillasant enw ac enwogrwydd yn ngrym y gallu arbenig hwn,—llygad i weled Anian. Yn eu plith yr oedd Richard Humphreys, Dyffryn, a Joseph Thomas, Carno. Nodwedd amlwg yn y naill a'r llall ydoedd y ddawn i sylwi. Yn nglŷn âg Humphreys o'r Dyffryn, yr oedd dylanwad y ddawn hon ar ei feddwl ef yn cymeryd y ffurf o foes—wersi a dywediadau byrion, cofiadwy, wedi eu seilio ar ffeithiau ac ar brofiad bywyd cyffredin. Yn ei pherthynas â Joseph Thomas, yr oedd