Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un ddawn yn ymffurfio yn hanesynau a chydmariaethau tarawiadol sydd, bellach, wedi suddo i gof a chalon gwlad.

II.

DRACHEFN, y mae llygad i weled Anian yn allu sydd yn dedwyddoli ei berchen, a hyny mewn amgylchiadau a gyfrifid gan lawer yn amddifad o elfenau cysur a mwynhad. Dyna—unigedd. Byddai aros mewn neillduaeth, yn nghanol gwlad, yn gosb drom ar lawer yn y dyddiau hyn. Un rheswm am y peth ydyw —fod y gallu i sylwi heb ei amaethu yn briodol; maent yn tynu eu holl gysur trwy gyfrwng dysgu, ac yn gadael sylwi heb ei feithrin o gwbl. Ond pan y mae hwn yn cael chwareu teg, nid oes yr un lanerch yn gwbl annyddorol. Ceir fod distawrwydd y dyffryn, a chilfachau y mynyddoedd. yn llawn o wrthrychau addas i ddedwyddoli y meddwl, ac i'w dywys at yr Hwn sydd "ryfedd yn ei weithred, ac ardderchog yn ei waith." Ac y mae hyn yn wirionedd, nid yn unig am olygfeydd rhwysgfawr ac arddunol, ond hefyd am bethau syml a chyffredin. mae y dosbarth cyntaf fel meistriaid y gynulleidfa yn hawlio sylw ac edmygedd. Anhawdd meddwl am ddyn yn sefyll ar lan y cefnfor, neu yn ymyl y rhaiadr crychwyn, heb deimlo rhywbeth oddiwrth fawredd neu wylltedd yr olygfa. Gellir rhestru y rhain, y môr a'r . mynydd, y rhaiadr a'r afon, yn mysg pregethwyr mawr—"pregethwyr cymanfa "—Natur. Gŵyr pawb i ryw fesur am danynt. Ond y mae myrdd o wrthddrychau eraill sydd yn orlawn o ddefnyddiau mwynhad.

Y mae Ruskin, pan yn darlunio ystlysau'r Alpau, yn dweyd fod y golygfeydd mor eang, mor ddiderfyn, fel y mae y llygad yn diffygio wrth edrych arnynt. A'r feddyginiaeth ar gyfer hyny, ebai ef, ydyw crynhoi y sylw ar ryw un peth yn eich ymyl—tusw o fwswg, neu flodyn yn nghesail y graig. Ond mewn trefn i wneyd