Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn, rhaid fod y gallu i sylwi, i ganfod tegwch yr hyn a ystyrir gan y lluaws yn ddistadl,-rhaid fod hwnw wedi ei feithrin yn flaenorol. Ac yn y cysylltiad hwn, gallwn nodi esiampl neu ddwy er dangos-pe y buasai hyny yn angenrheidiol-fod y gallu y soniaf am dano yn allu pleserus, yn ffynhonell mwynhad. Mewn hen rifyn o Longman's Magazine, fe geir ysgrif dan y penawd, "A Mountain Tulip." Y mae yr awdwr yn desgrifio ei hun yn dringo llechweddau Moel——— un o chwiorydd tal-gryf y Wyddfa. Unffurf a dof, meddai, ydyw yr olygfa ynddi ei hun; ond y mae y dringwr hwn wedi meithrin y gallu i sylwi mewn un cyfeiriad neillduol. A chyn hir, gwobrwyir ef am ei ymdrech. Wrth odreu un o'r meini mawrion sydd ar lethrau y Foel, y mae ei lygad yn disgyn ar lysieuyn bychan, yswil, a'i flodyn yn wyn fel yr eira. Dyna diwlip y mynydd! Nid oes hanes am dano yn Nghymru na Lloegr ond ar y llech weddau hyn. Plentyn yr eira ydyw; un o weddillion y cyfnod pell pan oedd yr iâ-fryniau yn gorchuddio yr Eryri. Y mae tylwyth y mountain tulip wedi myn'd yn hynod fychan erbyn hyn, ac fe ddywed y gŵr a'i gwelodd, iddo ei adael yno i wenu wrtho ei hun, rhag ofn mai efe oedd yr olaf o'r teulu oll. Y mae Wordsworth wedi darlunio dau gymeriad,— un heb agor ei lygad i brydferthwch Natur, a'r llall yn troi ei sylwadaeth yn ymborth i'w feddwl erbyn y dyfodol. Am y naill,—

"A primrose by the river's brim,
A yellow primrose was to him,
And it was nothing more."

Yr oedd yn edrych ar friallen felen fel yr oedd y fuwch neu y march yn arfer gwneyd; nid oedd cenad y gwanwyn yn cyflwyno un ystyriaeth foesol i'w feddwl, Ond am y llall, y mae yn myn'd at lan yr afon, ac yn gweled torf o'r blodau euraidd hyny—y daffodils—yn